Newyddion S4C

Merch fach a fu farw mewn tân ger Crymych wedi ei ‘swyno’ gan fflamau

Merch fach a fu farw mewn tân ger Crymych wedi ei ‘swyno’ gan fflamau

Roedd merch bump oed oedd ag awtistiaeth wedi ei “swyno” gan fflamau, cyn iddi farw mewn tân yn ei chartref ger Crymych.

Clywodd cwest i farwolaeth Alysia Salisbury ddydd Gwener bod ei hystafell wely ar lawr cyntaf ei chartref ym mhentref Pontyglasier wedi mynd ar dân ar 27 Mai 2023.

Clywodd y cwest ei bod hi wedi ei hudo gan bethau “synhwyraidd” gan gynnwys fflamau.

Dywedodd ei mam Tara Salisbury wrth yr heddlu ei bod hi’n debygol y byddai ei merch wedi gwylio’r fflamau “heb unrhyw ofn” yn hytrach na cheisio ffoi.

Dywedodd y Cwnstabl James Lang-Ford ei bod hi wedi ei gadael ar ei phen ei hun am gyfnod gan ei chwaer oedd wedi mynd i wneud bwyd iddyn nhw.

O fewn pum munud roedd y larwm dân wedi canu ond roedd y teulu wedi meddwl mai’r ffwrn oedd yn gyfrifol, cyn gweld y mwg.

“Yn yr amser y ceisiodd Tara a Joshua fynd i mewn i’r ystafell wely, daeth y tân dros eu pennau ar y nenfwd gan ddatblygu’n gyflym a symud ymlaen i fyny’r grisiau i ystafell wely’r atig," meddai Mr Lang-Ford.

Ar ôl darganfod y tân dywedodd bod Tara Salisbury a’i phartner Joshua wedi ceisio mynd i mewn i’r ystafell ond bod y fflamau eisoes yn rhy gryf.

“Roedd y tân eisoes dros eu pennau ar y nenfwd ac ar ei ffordd i fyny’r grisiau i’r atig,” meddai.

Dywedodd Jason Woodman, sywddog tân yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru bod Tara wedi dioddef anafiadau wrth geisio cyrraedd ei merch.

“Fe wnaeth Tara a Joshua ymdrechion i fynd i mewn i’r ystafell ond roedd y tân yn rhy gryf ac roedd Tara wedi ei llosgi," meddai.

“Ar y pwynt hwnnw roedd Tara yn dal i allu clywed Alysia yn gweiddi amdani.”

‘Anfwriadol’

Clywodd y crwner y gallai Alysia fod wedi cynnau'r tân gan ddefnyddio taniwr sigarets.

Cofnododd yr Uwch Grwner Dros Dro Paul Bennett gasgliad o farwolaeth ddamweiniol.

Dywedodd: “Digwyddodd y farwolaeth o ganlyniad i ddamwain ac mae’n debygol mai canlyniad anfwriadol gweithred fwriadol ydoedd.

“Ni allaf ddechrau dychmygu’r arswyd a’r ymdeimlad llwyr o ddiymadferthedd yr aeth Tara a Joshua drwyddo wrth iddynt wynebu’r sefyllfa yn yr ystafell wely gefn ar ôl agor y drws a sylweddoli nad oedden nhw’n gallu mynd i mewn i achub Alysia.”

Dywedodd Tara Salisbury: “Ry’n ni’n gweld ei heisiau hi’n ofnadwy.

“Roedd hi’n annwyl iawn a bydd colled fawr ar ei hôl am amser hir iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.