Cyngor Sir Benfro yn gostwng y dreth ar ail gartrefi
Cyngor Sir Benfro yn gostwng y dreth ar ail gartrefi
Ar ôl haf prysur, tawelwch.
Yn ôl nifer, mae'n dawelach na'r arfer yma yn Ninbych-y-pysgod.
Ym Mis Ebrill, cyflwynodd Cyngor Sir Benfro premiwm treth cyngor i berchnogion ail dai o 200% swm sydd angen iddyn nhw dalu uwchben eu treth y cyngor arferol.
Ond heddiw, penderfynodd cynghorwyr i ostwng y premiwm hynny i 150%.
A hynny'n rhannol oherwydd yr effaith ar dwristiaeth.
Mae'r effaith hefyd i weld ar berchnogion ail dai yn y sir.
Mae gan Diana a Jude o Gaerdydd gartref yn Ninbych-y-pysgod sydd wedi bod yn y teulu ers 60 mlynedd.
Oherwydd costau ychwanegol, maen nhw am werthu a chyhoeddiad heddiw ddim am gael effaith ar eu penderfyniad.
"Ni ddim yn defnyddio fe jyst ar gyfer yr haf neu'r Pasg.
"Ni'n mynd drwy'r flwyddyn.
"Yn y gaeaf, pan dyw'r twristiaid ddim yna mae'r tafarnau a'r bwytai dal yn gorfod ennill pres so mae pobl fel ni sydd yna'n gyson yn dod ag arian i mewn.
"O'n i'n gobeithio ymddeol lawr yna rhywbryd ond mae'r syniad yna wedi chwalu erbyn hyn."
Daeth penderfyniad heddiw er gwaetha'r rhybuddion y byddai'n arwain at fwy o doriadau i wasanaethau a chynnydd i dreth y cyngor sy'n un o'r rhai uchaf yn y DU.
"Roedd hi'n 200% y llynedd ond oedd teimlad i ni fynd yn rhy bell.
"Mae 'di bwrw'r economi twristiaeth.
"Ar gefn hynny, mae gymaint yn Sir Benfro yn dibynnu ar hwnna i wneud eu bywoliaeth a swyddi wedi'u colli.
"Y teimlad oedd bod 200% bach yn annheg."
"Ffocws y cyngor yma oedd trio rhoi thumb screws ar bawb yn y sir wrth godi trethi.
"Dw i ddim yn meddwl bod pobl Sir Benfro yn cael value for money.
"Dyna beth fi'n brwydo drosodd.
"Mae lot o ffyrdd o wneud hwnna drwy wneud reform o services y Cyngor."
Tu hwnt i siambr y Cyngor, diwedd y gan yw'r geiniog ac i fusnesau fan hyn mae unrhyw ymgais i droi trai dwristiaeth yr ardal i'w groesawu.
"Second home owners are here all year and spend within retail and hospitality.
"Any premium on them is unfair."
"We've seen an increase in second homes going up for sale.
"It takes away that opportunity for people to come and visit."
Gyda misoedd oer y gaeaf ar y gorwel gobaith y busnesau yma yw y bydd y newid yn rhoi hwb i'r stryd fawr.
Bydd y premiwm newydd yn dechrau o fis Ebrill 2025.