Pobol y Cwm yn dathlu'r 50
Pobol y Cwm yn dathlu'r 50
Mae wedi bod yn rhan o fywyd miloedd o Gymry ers hanner canrif yn dilyn hynt a helynt trigolion Cwmderi.
Dyma luniau o'r ymarferion cynnar, a'r gyfres yn cynnwys rhai o enwau mwya amlwg byd y ddrama ar y pryd fel Charles Williams a Dilwyn Owen.
"Ni'n trio 'sgwennu ar gyfer gwahanol mathau o bobl gwahanol oedrannau.
"Os weda i wrthoch chi bod y lle wedi'i seilio fel petai yn Sir Gaerfyrddin, rhwng Llanelli a Chaerfyrddin ble mae'r byd amaethyddol yn cwrdd â'r byd diwydiannol."
Rhifyn y Nadolig 1974 yw'r cynhara sy'n dal i fod yn yr archif.
Bwriad y cynhyrchwyr yn y cyfnod hwnnw oedd cyflwyno cyfres boblogaidd oedd, yng ngeiriau'r golygydd cynta, Gwenlyn Parry yn denu pobl nad oedd yn darllen Barn neu'r Faner ond yn byw eu bywyd bob dydd yn sŵn naturiol y Gymraeg.
Un aelod o'r cast oedd yno yn y rhifyn cynta ac yno'n dathlu'r 50 yr wythnos hon yw Lisabeth Miles, neu Megan.
"O'n i'n un o'r ieuengaf yno bryd hynny.
"Rŵan, yr hynaf!
"Cael cydweithio gyda phobl arbennig iawn... Dilwyn Owen, Charles Williams, Dilys Price, Rachel Howell-Thomas.
"Gymaint o bobl oedd wedi gwneud gymaint o gyfraniad i radio, teledu a theatr."
Mae cyfraniad y gyfres wedi bod yn allweddol yn ôl Dr Elain Price o Brifysgol Abertawe.
"Roedd Pobol y Cwm yn gonglfaen y gwasanaeth pan ddechreuodd S4C.
"Wastad yn ennill y sgoriau uchaf ar yr arolygon gwerthfawrogiad ac yn denu cynulleidfaoedd mawr.
"Mae wedi bod yn arwyddocaol ac wedi meithrin talent o flaen a thu ôl y camera.
"Mae 'di gwneud pethau arloesol, fel yn yr '80au pan oedd Pobol y Cwm yn cael ei ddarlledu pump gwaith yr wythnos yn ffilmio a darlledu yr un diwrnod."
Mae gwylwyr yn cael cyfle ar hyn o bryd i grwydro Cwmderi gan fod BBC Cymru yn cynnig teithiau o amgylch y set i ddathlu'r pen-blwydd.
"'Dan ni 'di teithio o Langefni a Gaerwen yn Sir Fôn jyst ar gyfer heddiw fel presant pen-blwydd i Mam.
"Ers faint ti 'di bod yn gwylio Pobol y Cwm?"
"Ers dipyn go lew! Heb roi fy oed i ffwrdd!"
"Dw i'n gwylio Pobol y Cwm ers oes y '90au.
"O'n i'n dysgu Cymraeg yn yr ysgol a nawr dw i'n dwlu arno.
"Wi'n excited i ddod yma i wneud y daith Cwmderi."
Mae poblogrwydd y daith yma, cyfle prin i wylwyr ymweld â Chwmderi yn dangos apêl y gyfres hyd heddiw.
Mae byd teledu wedi newid yn aruthrol yn yr hanner canrif ers dechre Pobol y Cwm ac yn dal i newid.
Beth am ddyfodol y gyfres?
"Mae'n un o gonglfeini'n darpariaeth ni.
"Mae'r gynulleidfa'n dal i fwynhau hi.
"Y cyrhaeddiant yn 69,000 dros y 12 mis diwethaf ar gyfartaledd.
"Mae'n rhan annatod o'r profiad Cymreig a theledu Cymraeg."
Maen nhw'n dathlu yng Nghwmderi yr wythnos hon, felly ar ôl i gyfres wreiddiol o ryw 30 gyrraedd pennod rhif 173,479 wrth ddathlu'r 50 nos fory.