Teithio rhyngwladol: Ynysoedd y Balearig yn symud i'r rhestr oren

The Sun 14/07/2021
Mallorca

Mae newidiadau wedi eu gwneud gan Lywodraeth y DU i'r rhestr oleuadau traffig ar gyfer teithio rhyngwladol.

Bydd yr Ynysoedd Balearig yn Sbaen, sydd yn cynnwys Mallorca, Ibiza a Menorca yn symud i'r rhestr oren o fod ar y rhestr werdd.

Dim ond ers pythefnos oedd yr ynysoedd wedi eu rhoi ar y rhestr werdd, ond bydd angen i deithwyr sydd heb dderbyn dau frechiad hunan-ynysu ar ôl dychwelyd adref oddi yno yn dilyn y newidiadau.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym o 04:00 fore dydd Llun.

Bydd Ciwba, Indonesia, Myanmar a Sierra Leone yn symud i'r rhestr goch.

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i gynghori pobl rhag teithio dramor oni bai ei fod yn hanfodol yn ystod yr haf hwn.

Darllenwch y stori'n llawn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.