Euro 2025: Cyhoeddi carfan Cymru i wynebu Slofacia yn y gemau ail-gyfle
Mae Rhian Wilkinson wedi cynnwys tri chwaraewr di-gap yng ngharfan Cymru i wynebu Slofacia yng ngemau ail-gyfle Euro 2025.
Fe fydd Cymru yn teithio i Poprad i wynebu Slofacia yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle ar 25 Hydref. Byddant wedyn yn chwarae'r ail gymal yng Nghaerdydd bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd Angharad James ei phenodi'n gapten newydd y garfan ar ddechrau'r mis a dyma fydd ei gemau cyntaf wrth y llyw yn barhaol.
Dyw Cymru ddim wedi colli yn 2024 ar ôl ymgyrch ragbrofol lle wnaethon nhw ennill pedair gêm, sicrhau dwy gêm gyfartal a sgorio 18 o goliau.
Wedi eu cynnwys yn y garfan am y tro cyntaf mae'r ymosodwyr Mared Griffiths, Tianna Teisar a Charlotte Lee.
Ni fydd Sophie Ingle yn y garfan wrth iddi barhau i wella o anaf.
Pe bai Cymru yn fuddugol yn erbyn Slofacia, fe fyddan nhw'n herio enillwyr y gêm rhwng Georgia a Gweriniaeth Iwerddon yn y rownd derfynol.
Fe fydd enillydd y gêm honno yn hawlio eu lle yn Euro 2025. Nid yw Cymru erioed wedi cyrraedd rownd derfynol prif gystadleuaeth yn ei hanes.
Dyma'r garfan lawn:
Olivia Clark, Laura O’Sullivan-Jones, Safia Middleton-Patel, Rhiannon Roberts, Josie Green, Charlie Estcourt, Hayley Ladd, Gemma Evans, Mayzee Davies, Lily Woodham, Ella Powell, Anna Filbey, Alice Griffiths, Angharad James, Lois Joel, Rachel Rowe, Carrie Jones, Ffion Morgan, Jess Fishlock, Ceri Holland, Charlotte Lee, Kayleigh Barton, Mary McAteer, Mared Griffiths, Tianna Teisar, Hannah Cain.
Llun: Asiantaeth Huw Evans