Cefnogwyr pêl-droed hiliol i gael eu gwahardd o gemau, medd Boris Johnson

Boris Johnson Downing Street
Fe allai cefnogwyr pêl-droed sy’n cam-drin eraill yn hiliol ar-lein gael eu gwahardd o gemau yn ôl Prif Weinidog y DU.
Fe ddatgelodd Boris Johnson y bydd gorchmynion gwahardd pêl-droed yn cael eu newid fel bod unigolion sy’n euog o gam-drin hiliol yn wynebu cael eu gwahardd yn gyfan gwbl rhag mynychu rhai gemau.
Cafodd tri o chwaraewyr tîm pêl-droed Lloegr eu targedu’n hiliol ar-lein wedi i Loegr golli yn erbyn yr Eidal nos Sul, gyda nifer yn galw am newid ar frys er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o ganlyniad i'r ymateb yma.
Darllenwch y stori’n llawn yma.