Arestio dau ddyn ar amheuaeth o ymosod wedi gêm bêl-droed yng Nghaerdydd
Mae dau ddyn wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac ymddwyn yn dreisgar wedi gêm bêl-droed yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Cafodd swyddogion eu galw i ddigwyddiad yng Nghanolfan Hamdden y Dwyrain yn ardal Llanrhymni yn y ddinas tua 16.00 ddydd Sadwrn yn dilyn adroddiadau o anhrefn treisgar.
Yn ôl yr heddlu, roedd sawl ymosodiad, gyda dyn 32 oed o Drelái yn cael anaf allai “newid ei fywyd”. Cafodd cerbyd ei ddifrodi yn ogystal.
Mae Heddlu’r De bellach wedi arestio dyn 28 oed o Trowbridge, a dyn 22 oed o Lanrhymni ar amheuaeth o ymosod a chreu anhrefn treisgar.
Mae’r ddau wedi’u cadw yn y ddalfa wrth i’r heddlu barhau â'u hymchwiliad.
Mae un o'r dynion a gafodd eu hanafu, Joel Collins, 32, yn cael llawdrinaeth i'w benglin.
Dywedodd Heddlu'r De eu bod nhw'n ymchwilio i ddigwyddiad lle cafodd nifer o bobl eu hanafu gan bobl yn cario arfau ac yn gwisgo gorchuddion wyneb.
Roedd tîm Mr Collins, Avenue Hotspur FC, o Drelái, newydd golli 3-1 yn erbyn tîm Llanrumney Athletic cyn i'r gwrthdaro ddechrau.
Dywedodd y rhai oedd yn gwylio'r gêm wrth y BBC bod grŵp wedi ymosod ar rai o chwaraewyr Avenue Hotspur ar ôl iddyn nhw adael yr ystafell newid, gan ddefnyddio batiau pêl fas ac arfau eraill.
'Brawychus'
Fe gyhoeddodd tîm Mr Collins ddatganiad ar X yn condemnio’r trais.
“Mae’r digwyddiad ysgytwol hwn, pan ymosodwyd yn dreisgar ar sawl chwaraewr wrth iddyn nhw adael yr ystafelloedd newid, yn gwbl annerbyniol ac roedd yn brofiad trallodus a brawychus iawn i bawb dan sylw,” medden nhw.
“Rydym yn cydweithredu’n llawn â’r heddlu a Chymdeithas Bêl-droed De Cymru yn eu hymchwiliad, ac ein prif [nod] ar hyn o bryd yw canolbwyntio ar gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio.
“Rydym yn falch o adrodd bod Joel Collins mewn hwyliau da a’i fod ar hyn o bryd yn cael llawdriniaeth ar ei ben-glin sydd wedi torri.”
Mae’r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau o’r digwyddiad i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400340400.