Newyddion S4C

Person a enillodd £1 miliwn ar docyn loteri wedi methu'r cyfle i'w hawlio

14/10/2024
Loteri

Mae unigolyn sydd wedi ennill £1 miliwn ar ôl prynu tocyn loteri yng Nghymru wedi colli’r cyfle i hawlio'r wobr. 

Fe gafodd tocyn EuroMillions UK Millionaire Maker ei brynu yn Rhondda Cynon Taf ar 16 Ebrill. 

Ond fe fethodd y person a brynodd y tocyn i hawlio’r arian o fewn 180 ddiwrnod, gyda'r dyddiad cau er mwyn gwneud yn dod i ben ddydd Sul. 

Roedd y Loteri Genedlaethol wedi annog pobl i wirio eu tocynnau er mwyn dod o hyd i’r enillydd ond doedd neb wedi’i hawlio. 

Dywedodd Andy Carter, uwch gynghorydd enillwyr y Loteri Genedlaethol y byddai’r arian bellach yn mynd tuag at y “£30 miliwn sydd yn cael ei chodi bob wythnos ar gyfer prosiectau sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol.” 

Mae nifer o brosiectau yn Rhondda Cynon Taf eisoes wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol yn y gorffennol, gan gynnwys grŵp sy’n cefnogi pobl gyda nam clyw a gafodd grant gwerth £18,025 ym mis Mai eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.