Newyddion S4C

Dechrau ymchwiliad i farwolaeth Novichok

14/10/2024
 Dawn Sturgess

Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn dechrau yn ddiweddarach er mwyn deall sut y gwnaeth menyw farw ar ôl dod i gysylltiad â'r cemegyn gwenwynig Novichok.

Fe fuodd Dawn Sturgess o Wiltshire farw ym mis Gorffennaf 2018 ar ôl iddi chwistrellu ei hun gyda phersawr yn Amesbury. Tu mewn i'r botel honno roedd Novichok.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar yr amgylchiadau wnaeth arwain at ei marwolaeth, ceisio canfod pwy oedd yn gyfrifol a pha wersi sydd i'w dysgu.

Cafodd Sergei Skripal a'i ferch Yulia hefyd eu gwenwyno gyda Novichok yng Nghaersallog (Salisbury) ym mis Mawrth 2018. Roedd Sergei Skripal yn gyn ysbïwr Rwsia. Fe wnaeth y ddau oroesi.

Yn ystod yr wythnos, bydd tystion fel y parafeddygon a heddlu Wiltshire yn rhoi tystiolaeth. Bydd mam Ms Sturgess hefyd yn siarad a bydd yr ymchwiliad yn clywed gan swyddogion heddlu sydd wedi bod yn ymchwilio i'r digwyddiad Novichok.

Mae disgwyl i rywfaint o'r dystiolaeth gael ei glywed yn breifat oherwydd bod hyn yn fater o ddiogelwch ar raddfa Brydeinig. 

Mae awdurdodau'r DU wastad wedi dweud mai Rwsia oedd yn gyfrifol gan honni mai nhw wnaeth geisio lladd Sergei a Yulia Skripal ac yna cael gwared â'r botel bersawr. Gwadu hynny mae Rwsia.

Cafodd y botel ei darganfod gan bartner Ms Sturgess, Charlie Rowley. Fe aeth yn sâl hefyd, cyn gwella yn yr ysbyty.

Yn ôl Llysgenhadaeth Rwsia 'syrcas' yw'r ymchwiliad cyhoeddus.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi flwyddyn nesaf. 

Llun: Heddlu'r Met

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.