Netanyahu yn rhybuddio'r Cenhedloedd Unedig i symud ceidwaid heddwch allan o Libanus ‘ar unwaith’
Mae Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu wedi annog y Cenhedloedd Unedig i symud eu ceidwaid heddwch allan o rannau o Libanus.
Mae Mr Netanyahu wedi galw ar bennaeth y Cenhedloedd Unedig, Antonio Guterres i symud lluoedd cadw’r heddwch yn ne Libanus “ar unwaith”.
Ddydd Sadwrn dywedodd llu’r Cenhedloedd Unedig yn Libanus (Unifil) fod pumed ceidwad heddwch wedi'i anafu yn ne Libanus yn ystod yr wythnos.
Dywedodd gweinidogaeth iechyd Libanus fod 15 o bobol wedi’u lladd mewn tri ymosodiad gan Israel ddydd Sadwrn ar Deir Bella, Al Maaysra a Barja.
Dywedodd byddin Israel fod Hezbollah wedi lansio tua 320 o daflegrau o Libanus i Israel ddydd Sadwrn.
Yn Gaza, mae o leiaf 29 o bobl wedi cael eu lladd mewn streiciau awyr Israel yn nganolbarth a gogledd Llain Gaza ddydd Sadwrn a thros nos, yn ôl adroddiadau oedd yn dyfynnu meddygon yno.