
Neil Foden wedi twyllo pobl ‘ar bob lefel’ - Rhun ap Iorwerth
Roedd Neil Foden wedi twyllo pobl “ar bob lefel” o’r ysgol hyd at lywodraethau ac mae angen ymchwiliad cyhoeddus i fynd i waelod hynny, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth y byddai yn “heriol” i Gyngor Gwynedd orfod edrych ar sut oedd y pedoffeil o brifathro wedi gallu troseddu dros gyfnod o amser ond mai ymchwiliad cyhoeddus oedd y ffordd ymlaen.
Roedd yn siarad ddydd Sul wrth i arweinydd Plaid Cymru Cyngor Gwynedd, Dyfrig Siencyn, ddweud ei fod yn ystyried ei sefyllfa ar ôl i bedwar aelod o’i gabinet ymddiswyddo.
Mewn datganiad dywedodd y cynghorwyr Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones eu bod nhw’n camu i lawr oherwydd gwahaniaeth barn gydag arweinyddiaeth y cyngor ynglŷn â sut i ymdrin â’r achos.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gam-drin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.
Cyn ei arestio roedd yn cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes, gan gynnwys rhoi tystiolaeth i bwyllgorau y Senedd.
Wrth siarad ar raglen Sunday Supplement ar Radio Wales, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Fe daflodd y pedoffeil yma'r llwch i lygaid pobl ar bob lefel, o bobl yn yr ysgol, hyd at y llywodraeth.
“Mae angen i ni ddarganfod sut y digwyddodd hynny.
“Dyna pam ydw i a’m cyd-aelodau’n dweud, os yw’n cymryd ymchwiliad cyhoeddus, gadewch i ni gael ymchwiliad cyhoeddus.
“Gadewch i ni edrych arno, systemau a sut roedden nhw'n gweithio o fewn Cyngor Gwynedd.
“A bod modd i bob cyngor ymhobman ddysgu o hynny.”
Ychwanegodd bod angen i “bawb o fewn Cyngor Gwynedd, o fewn y gymuned, o fewn y gymdeithas yn ehangach” feddwl am y dioddefwyr yn gyntaf.
“Yn amlwg, mae hynny'n heriol i gyngor sy'n gorfod edrych arno’i hun, a gofyn ‘pam’ a ‘sut’ a chael at yr atebion.
“Rwy'n gadael materion o fewn Cyngor Gwynedd i Gyngor Gwynedd eu hunain, o ran grŵp Plaid Cymru ac yn y blaen dyna sut rydyn ni'n gweithio fel plaid.
“Bydd ganddyn nhw fy nghefnogaeth wrth iddyn nhw symud ymlaen i gyrraedd yr atebion hynny.”

‘Dysgu gwersi’
Nos Iau roedd Dyfrig Siencyn wedi gwrthod ymddiheuro i ddioddefwyr y prifathro gan ddweud ar raglen Newyddion S4C: “os bydd unrhyw fai ar y Cyngor, yna bydd lle i ymddiheuro”.
Ond bnawn Gwener fe wnaeth hynny gan ddweud ei fod yn gwneud “yn ddiffuant i bawb sydd wedi dioddef oherwydd gweithredoedd y troseddwr rhyw Neil Foden”.
“Hoffwn roi gwarant i bobl Gwynedd, ac yn arbennig i’r dioddefwyr, fy mod i a fy nghyd-gynghorwyr yn benderfynol o droi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le er mwyn sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto.
“Ategaf yr hyn rwyf wedi ei ddweud yn barod, sef fod dioddefwyr Neil Foden yn parhau i fod yn ein meddyliau i gyd a bod dysgu gwersi o hyn oll yn brif flaenoriaeth i mi ac i Gyngor Gwynedd.”
Ychwanegodd: "Rwyf wedi fy nhristau gan y newyddion fod pedwar o fy nghyd-aelodau Cabinet wedi datgan heddiw eu bod yn camu i lawr o’u dyletswyddau. Hoffwn ddiolch iddynt am eu cyfraniad gwerthfawr a’u gwaith diflino dros bobl a chymunedau Gwynedd.
"Dros y penwythnos byddaf yn trafod gyda fy nghyd aelodau ac yn ystyried fy sefyllfa fy hun, cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen."
Y datganiad yn llawn
Yn eu datganiad dywedodd y cynghorwyr Beca Brown, Berwyn Parry Jones, Dafydd Meurig ac Elin Walker Jones:
“Dymunwn fynegi yn ddiffuant ein tor-calon a’n hymddiheuriadau dyfnaf i ddioddefwyr y troseddwr rhyw Neil Foden am y profiadau erchyll maent wedi gorfod ei ddioddef o’i herwydd.
“Rydym wedi camu i lawr o gabinet Cyngor Gwynedd heddiw oherwydd gwahaniaethau sylfaenol rhyngom a’r arweinyddiaeth ynglŷn â sut i ddelio gyda’r hyn a wnaeth Foden a beth yw’r ffordd orau i fynd ati i ganfod beth yn union aeth o’i le.
“Dymunwn ymbellhau ein hunain oddi wrth y sylwadau a wnaethpwyd gan yr Arweinydd Dyfrig Siencyn ar raglen Newyddion S4C neithiwr.
“Rydym yn cyd-sefyll gyda’r dioddefwyr ac yn llwyr gefnogol i ddatganiad Grŵp Plaid Cymru Gwynedd ac aelodau etholedig y sir ac yn galw unwaith eto am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol o brosesau’r cyngor sir.
“Rydym yn gresynu’n arw bod materion arweinyddiaeth y Cyngor wedi tynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd bwysicaf oll yn y sefyllfa drasig yma - sef dioddefaint y merched. Merched a aeth i’r ysgol, ac a oedd i fod yn saff.”
Daw’r galwadau diweddaraf yn dilyn rhaglen BBC Wales Investigates, My Headteacher the Paedophile yr wythnos hon, a wnaeth datgelu honiadau pellach o gam-drin merched sy'n ymestyn yn ôl i'r 1970au hwyr.
Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru eisoes yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant i achos Neil Foden dan gadeiryddiaeth annibynnol Jan Pickles OBE.