Newyddion S4C

Carol Vorderman yn gadael sioe radio LBC ar ôl 'braw iechyd'

12/10/2024
Carol Vorderman

Mae Carol Vorderman wedi gadael ei rhaglen radio LBC yn dilyn “braw iechyd”.

Fe ymunodd y Gymraes a chyn-seren rhaglen deledu Countdown â LBC i gyflwyno ei rhaglen ddydd Sul ym mis Ionawr eleni.

Daeth wedi iddi benderfynu gadael ei swydd gyda BBC Cymru oherwydd canllawiau cyfryngau cymdeithasol y darlledwr.

Dywedodd Ms Vorderman ei bod yn gadael ei sioe LBC ar ôl “llosgi allan” wrth weithio wythnos saith diwrnod.

Dywedodd iddi ddioddef “braw iechyd” bythefnos yn ôl, arweiniodd at arhosiad yn yr ysbyty dros nos.

Dywedodd Ms Vorderman ar y cyfryngau cymdeithasol ei bod wedi teithio i lawr i Lundain ond ei bod yn “sâl iawn” ac yn “hollol flinedig” gyda “theimlad tynn” yn ei brest.

Dywedodd iddi fynd i’r ysbyty yn y diwedd a chael nifer o sganiau a gwiriadau a ddatgelodd unrhyw broblemau iechyd sylfaenol.

Yn dilyn cyngor teulu a ffrindiau, dywedodd y darlledwr ei bod yn cymryd y dychryn iechyd fel “rhybudd i arafu ychydig”, gan gyhoeddi ei phenderfyniad i “dorri fy ngwaith yn ôl i ddyddiau’r wythnos am y tro”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.