Heddlu Gwent yn cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu

14/07/2021
Heddlu Gwent
NS4C

Mae Heddlu Gwent wedi cyfeirio ei hun at Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar ôl i un o swyddogion y llu arestio dyn yng Nghasnewydd.

Fe wnaeth fideo o'r digwyddiad dderbyn beirniadaeth chwyrn ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Cafodd dyn 41 oed o Gwrt Livale yng Nghasnewydd ei arestio ddydd Gwener 9 Gorffennaf, yn dilyn adroddiadau fod unigolyn wedi gyrru heb yswiriant tra roedd wedi ei wahardd. 

Yn ôl yr heddlu, cafodd ei gyhuddo o'r troseddau hyn yn Llys Ynadon Casnewydd ar ddydd Llun, 12 Gorffennaf. 

Yn ogystal, fe gafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr brys a rhwystro heddwas rhag cyflawni ei ddyletswyddau. Cafodd ei ryddhau dan ymchwiliad mewn perthynas â'r cyhuddiadau honedig hyn. 

Mae fideo o'r dyn yn cael ei arestio wedi ymddangos ar dudalen cangen 'Black Lives Matter' Caerdydd a'r Fro. 

Dywedodd y Prif Arolygydd Tom Harding o Heddlu Gwent: “Rydym yn ymwybodol o fideo sydd yn dangos un o'n swyddogion ar gyfryngau cymdeithasol. 

"Mae Heddlu Gwent yn cymryd pob adroddiad o’i fath o ddifrif.

“Rydym yn deall pryder y gymuned ac rydym yn y broses o adolygu ein cyswllt â'r unigolyn yn ei gyfanrwydd.  

“Yn y cyfamser, rydym wedi cyfeirio hyn at y Swyddfa Annibynnol ar Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn unol â'r drefn arferol i sicrhau fod yna graffu ac ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.