'Un o'r goreuon': Teyrngedau i reolwr proffesiynol cyntaf tîm rygbi Cymru Kevin Bowring
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i reolwr proffesiynol cyntaf tîm rygbi cenedlaethol Cymru, Kevin Bowring sydd wedi marw yn 70 oed.
Roedd yn rheolwr Cymru am gyfnod o 29 o gemau rhwng 1995 ac 1998, gan ennill 15 ohonynt.
Yn ystod ei gyfnod fel chwaraewr roedd yn gapten ar glwb London Welsh a chwaraeodd i'r Barbariaid yn safle'r blaenasgellwr.
Ar ôl i'w gyfnod fel rheolwr Cymru dod i ben fe aeth ymlaen i weithio i Undeb Rygbi Lloegr am 14 mlynedd fel pennaeth datblygu hyfforddiant elitaidd.
Disgrifiodd Geraint John cyfarwyddwr cymunedol Undeb Rygbi Cymru, Kevin Bowring fel "un o'r goreuon".
"Person rygbi go iawn, ffrind a mentor i mi a nifer o bobl o gwmpas y byd," meddai.
"Dwi'n danfon fy nghariad i'w deulu ar ran fi fy hun ac Undeb Rygbi Cymru. Roedd yn un o'r goreuon."
'Mentor i nifer'
Dywedodd Clwb Rygbi Cymry Llundain: "Rydym yn hynod drist i glywed y newyddion am un o oreuon London Welsh, Kevin Bowring.
"Er nad oedd wedi chwarae i Gymru, fe sydd â'r fraint o fod yn rheolwr proffesiynol cyntaf Cymru.
"Fe fydd yn un ohonom am byth, ni fydd yn cael ei anghofio."
Mewn datganiad dywedodd Rygbi Caerdydd ei fod yn ddyn cyfeillgar a gwybodus.
"Roedd yn ddyn rygbi caredig, gwybodus ac angerddol oedd yn fentor i nifer dros y blynyddoedd," medden nhw.
"Mae ein meddyliau gyda ffrindiau a theulu Kevin yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Inline Tweet: https://twitter.com/Cardiff_Rugby/status/1844629231893930302
Llun: Asiantaeth Huw Evans