Newyddion S4C

‘Y mwyaf dinistriol ers dros ganrif’: Corwynt Milton yn cyrraedd Florida

10/10/2024
Corwynt Milton

Mae Corwynt Milton wedi cyrraedd talaith Florida gyda’r Arlywydd Joe Biden yn dweud ei fod yn disgwyl mai dyma fydd un o’r corwyntoedd “mwyaf dinistriol” ers dros ganrif.

Fe gyrhaeddodd y storm categori 3 Siesta Key yn Sarasota tua 8.30pm ddydd Mercher (1.30am ddydd Iau yn y DU).

Mae bellach wedi gwanhau i storm categori 2 gan ddod â gwyntoedd 120mya, meddai canolfan corwyntoedd cenedlaethol UDA.

Roedd dros 2m o adeiladau eisoes heb bŵer, y rhan fwyaf o amgylch ardal Tampa Bay, ac mae miliynau wedi gadael eu cartrefi i symud i ogledd y dalaith.

Wrth siarad yn y Tŷ Gwyn dywedodd yr Arlywydd Joe Biden mai dyma fydd “un o’r corwyntoedd mwyaf dinistriol yn Florida ers dros ganrif”.

Dywedodd y bydd yn achosi “dinistr anhygoel ac y gall ddileu cymunedau ac achosi marwolaethau” wrth annog pawb yn ei lwybr i wrando ar gyngor swyddogion lleol.

Mae o leiaf dau o bobl eisoes wedi’u lladd o ganlyniad i wyntoedd cryfion yn rhanbarth de-ddwyreiniol Fort Pierce, ac fe gafodd nifer eu hanafu, adroddodd NBC.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Ardal Dân St Lucie y marwolaethau a bod nifer o bobl eraill wedi cael eu cludo i ysbytai.

Mae disgwyl i Milton arwain at ymchwydd yn lefel y môr o hyd at 12 troedfedd mewn rhai ardaloedd ar arfordir gorllewinol poblog Florida.

Gwelodd St Petesburg hyd at 177.8mm o law mewn awr, sef gwerth mis o law i’r ddinas ar arfordir gorllewin Florida.

Image
Brandon, Florida
Brandon, Florida

Dim arch i’r anifeiliaid

Mae dros 1,000 o anifeiliaid yn Sw Tampa wedi eu symud i adeiladau pwrpasol ar y safle er mwyn osgoi’r corwynt.

Mae’r anifeiliaid sydd wedi eu symud yn cynnwys eliffantod Affricanaidd, fflamingos o’r Caribî, a hippos pigmi.

Bydd rhai creaduriaid yn aros yn eu cynefinoedd, gan gynnwys yr aligatoriaid a fydd yn llochesu ar waelodion eu pyllau.

“Does dim byd yn eu poeni nhw,” meddai cyfarwyddwr anifeiliaid y sw, Tiffany Burns.

Lluniau gan Wochit.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.