Newyddion S4C

Achos Dyffryn Aman: Rheithgor yn ystyried eu dyfarniad

08/10/2024
Ysgol Rhydaman

Mae'r rheithgor yn achos merch 14 oed sydd wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman wedi dechrau ystyried eu dyfarniad.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl nad oes modd ei henwi, eu hanafu yn yr ymosodiad ar iard Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill.

Goroesodd pob un o'r tri dioddefwr yr ymosodiad ond bu'n rhaid i Ms Hopkin gael ei hedfan i Gaerdydd mewn ambiwlans awyr ar ôl cael ei thrywanu yn ei gwddf.

Mae'r ferch 14 oed, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae hi'n gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.