Newyddion S4C

Agor ysgol feddygol newydd yn y gogledd yn 'garreg filltir'

07/10/2024

Agor ysgol feddygol newydd yn y gogledd yn 'garreg filltir'

"I now declare the North Wales Medical School to be open."
 
Dathlu a nodi diwrnod arwyddocaol yn y byd meddygol yn y gogledd wrth i'r ysgol feddygol newydd agor ym Mangor.
 
Ers 2019, mae myfyrwyr wedi gwneud peth o'u cwrs meddygaeth ym Mangor.
 
Ond rhannau eraill o'r cwrs yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd.
 
Eleni, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud y pum mlynedd o'u cwrs meddygaeth yma, yng ngogledd Cymru.
 
"Oedd llawer o resymau dros ddewis Bangor fel dewis cyntaf ond yr un cyntaf oll oedd bod y brwdfrydedd 'na ac yn gwrs newydd.
 
"Mae'n gyffrous i fentro a mynd am yr her 'na."
 
"Mae'n eithaf pwysig achos byddai symud hefyd yn achosi strach o ran cychwyn uni gwahanol a setlo mewn eto.
 
"Mae'n neis cychwyn yn fan'ma a gwneud y pum mlynedd cyfan a chael profiad iawn o wneud o gyd mewn ardal Gymraeg."
 
"Be ni eisiau rhoi i bobl gogledd Cymru ydy cyfle.
 
"Rŵan, mae ganddyn nhw'r dewis o ddod atan ni.
 
"Os maen nhw eisiau aros yn eu cynefin maen nhw'n gallu astudio meddygaeth yma am bum mlynedd.
 
"Maen nhw'n gwybod eu diwylliant yn barod.
 
"Bydden nhw'n gallu defnyddio eu hiaith ac addysg o'r safon uchaf."
 
Er bod rhai myfyrwyr wedi astudio rhannau o'r cwrs yn y gogledd bydd 80 o fyfyrwyr eleni yn astudio'r cwrs llawn ym Mangor ond bydd y nifer yn cynyddu
i 140 y flwyddyn o 2029 ymlaen.
 
Cafodd yr ysgol newydd ei hagor yn swyddogol gan y Prif Weinidog a'r Ysgrifennydd Iechyd ddoe.
 
"Mae'n gyffrous ac yn bartneriaeth rhwng y brifysgol a'r bwrdd iechyd.
 
"Mae'n gaffaeliad i ogledd Cymru a Chymru'n gyffredinol.
 
"Bues i yn Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac yn Maelor hefyd a gweld pa mor bwysig yw'r cysylltiad rhwng y gwasanaeth iechyd, y gymuned leol a'r gweithlu.
 
"Pan mae pob un yn gweithio gyda'i gilydd mae'n arbennig iawn ac yn fantais bwysig iawn."
 
"Mae heddiw yn arwydd o obaith i'r dyfodol.
 
"Mae prifysgol wedi sefydlu ysgol feddygol.
 
"Gall bobl ifanc cael hyfforddiant yma.
 
"Y gobaith fel bwrdd iechyd yw bod ni'n gallu cynnig swyddi ar draws y gogledd i bobl ifanc.
 
"Dyna'r gobaith a dw i'n optimistig am hynny."
 
Diolchodd y Prif Weinidog i un gwleidydd lleol sydd wedi bod yn ymgyrchu dros sefydlu'r ysgol.
 
"I want to pay tribute to Siân Gwenllian who has been banging the drum for a very long time and was part of the cooperation agreement as well."
 
"Mae 'di bod yn ymgyrch hir gychwynnodd cyn i fynd i'r Senedd ond pan ddes i'r Senedd, o'n i'n gweld bod angen yr ysgol feddygol ac angen i ni hyfforddi meddygon yn y gogledd.
 
"Hynny oherwydd y problemau recriwtio, llenwi swyddi a'r meddygfeydd yn cau.
 
"Oedd o'n bwysig iawn ac mae 'di bod yn ymgyrch rhy hir o lawer ond ni wedi cyrraedd diwedd y daith rŵan."
 
Mae recriwtio a chadw meddygon yn broblem ar draws y DU ac Ewrop.
 
Y gobaith ydy y bydd myfyrwyr, llawer sy'n siarad Cymraeg yn dewis hyfforddi yn eu hardal enedigol ac yn dewis dilyn gyrfa yng ngogledd Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.