Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch 14 oed yn 'teimlo'n ofnadwy' am drywanu dwy athrawes a disgybl

Camera cylch cyfyng Dyffryn Aman

Mae'r ddelwedd CCTV o'r digwyddiad uchod wedi ei ddangos i'r llys.

Rhybudd: Mae'r erthygl yn cynnwys trafodaeth am hunanladdiad.

Mae merch 14 oed wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe ei bod hi'n "teimlo'n ofnadwy" am drywanu dwy athrawes a disgybl.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin, a’r disgybl nad oes modd ei henwi, eu hanafu yn yr ymosodiad ar iard yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill.

Mae'r ferch 14 oed, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Mae eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Ar bumed diwrnod yr achos, dywedodd y ferch, oedd yn 13 oed adeg y digwyddiad ei bod hi'n teimlo'n "ofnadwy" ac y byddai'n "gwneud unrhyw beth i fynd yn ôl" i'r cyfnod cyn y trywanu.

Roedd hi'n gwisgo crys gwyn a thei du ac yn ateb cwestiynau gan Caroline Rees KC, oedd yn siarad ar ran yr amddiffyniad.

Dywedodd y ferch: "Dyw e ddim yn teimlo fel mai fi wnaeth e i fod yn onest. (Dwi'n teimlo'n) ofnadwy, yn euog."

Ychwanegodd nad oedd yn bwriadu lladd unrhyw un ac nad oedd hi'n yn cofio'r rhan fwyaf o'r digwyddiad.

"Mae'n aneglur, dwi'n cofio teimlo'n boeth iawn," meddai.

Image
Y gyllell
Y gyllell a gafodd ei defnyddio. Llun gan Wasanaeth Erlyn y Goron

'Cario cyllell'

Dywedodd y ferch ei bod hi wedi mynd i'r ysgol gyda chyllell yn ei meddiant bron bob dydd ers iddi fod yn "blwyddyn tri neu bedwar".

Roedd hi'n gwneud hyn oherwydd roedd hi'n teimlo'n "ofnus ac yn bryderus" ac yn defnyddio cyllell i hunan-niweidio, meddai.

Clywodd y llys bod hi eisoes wedi cael ei dal gyda'r cyllell yn yr ysgol gan Ms Elias ar ddechrau'r flwyddyn ysgol eleni.

Dywedodd y ferch ei bod wedi anghofio bod ganddi'r cyllell yn ei meddiant, a'i bod wedi ei defnyddio i naddu ei henw i mewn i goeden.

Cafodd ei hatal rhag mynd i'r ysgol am wythnos ar ôl i Ms Elias darganfod y gyllell a gofynwyd i'w i'w thad fynd drwy ei bag bob dydd cyn ysgol i chwilio am gyllyll.

Roedd ei thad wedi dweud nad oedd wedi chwilio'r bag ar ddiwrnod yr ymosodiad. Fe wnaeth y ferch guddio'r cyllell ym mhoced ei throwsus cyn ymosod ar Ms Elias, Ms Hopkin a'r disgybl.

Gwadodd y ferch ei bod eisiau lladd Ms Elias cyn y digwyddiad, ond derbyniodd ei bod eisiau ei "phwnio neu slapio" hi yn y gorffennol.

'Cyflawni trosedd'

Gofynnodd Williams Hughes KC, ar ran yr erlyniad, a oedd y ferch 14 oed am ladd ei chyd-ddisgybl neu ei hathrawon.

Atebodd “Na”.

Gofynnodd Mr Hughes iddi am luniau a geiriau mewn llyfr nodiadau y daeth yr heddlu o hyd iddo yn ei chartref.

Gofynnodd beth oedd hi’n ei olygu pan ysgrifennodd: “Rydw i eisiau gwneud rhywbeth nad yw pobl i fod i’w wneud.”

Atebodd hi: “I ddechrau, roeddwn i’n bwriadu lladd fy hun.”

Gofynnodd iddi hefyd beth oedd hi’n ei olygu wrth ddweud: “Rwy’n teimlo fy mod yn mynd i gyflawni trosedd fawr”.

Eglurodd hi ei bod yn grefyddol, ac y byddai lladd ei hun yn drosedd.

Mynnodd hefyd fod ymadroddion o amgylch llun, o bosibl o’r ferch yr aeth ymlaen i’w thrywanu, gan gynnwys “llosgi” a “boddi”, yn “dangos sut oeddwn i’n teimlo ar y pryd”.

Mae'r achos llys yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.