Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd i fuddsoddi mwy na £5 miliwn yn harbwr Pwllheli

07/10/2024
Hafan Pwllheli

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi y bydd yn buddsoddi mwy na £5 miliwn yn harbwr Pwllheli dros y 10 mlynedd nesaf.

Dywedodd y cyngor y bydd cyfran o'r £5.4 miliwn yn cael ei ddefnyddio i gael gwared â'r mwd yn Hafan Pwllheli er mwyn sicrhau "mynediad diogel" i gychod.

Bwriad y Cynllun Asedau yw galluogi'r cyngor i fuddsoddi yn ei "asedau hanfodol", sy'n cynnwys Hafan Pwllheli.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda'r nod o gefnogi yr economi'n lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned: "Mae Hafan Pwllheli yn dod a mwy na £3 miliwn o fudd economaidd i ardal Pwllheli yn flynyddol ac yn cefnogi mwy na 50 o swyddi llawn amser, gwerth uchel.

"Heb amheuaeth, mae gwario i gadw’r ddarpariaeth i fyny i’r safon ddisgwyliedig yn werth am arian, ac yn arbennig o bwysig i’r economi leol yn ardal Dwyfor."

Ychwanegodd: "Gyda’r nifer o gwsmeriaid blynyddol wedi cynyddu ers 2019 mae’r dyfodol yn argoeli’n dda ar gyfer yr Hafan."

Yn ôl Hafan Pwllheli, mae rhestr aros o fwy na 200 ar gyfer lle yn y marina, ac mae 94% o angorfeydd yr Harbwr Allanol yn llawn.

'Pwysig i gymunedau lleol'

Bydd cyfran arall o'r £5 miliwn yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu'r pontŵns sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes. 

Dywedodd y Cynghorydd Jeffreys: "Heb y buddsoddiad hwn i gynnal safonau dros y ddeng mlynedd nesaf, mae risg na fyddwn yn cadw i fyny efo’r farchnad a byddai cwsmeriaid yn gadael.

"Byddai hyn yn ergyd drom i economi ardal Pwllheli gyda swyddi sy’n dibynnu ar y diwydiant morwrol a’r diwydiant ymweld yn ehangach mewn perygl."

Yn ôl Ms Jeffreys, fe wnaeth Cyngor Gwynedd wneud elw o £700,000 o'r marina yn 2023/24.

"Mae creu incwm drwy ffioedd yn rhan allweddol o’n strategaeth ariannol, ac yn gwarchod gwasanaethau hanfodol mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnynt rhag cael eu torri fwy byth," meddai.

"Rydym yn cydnabod pwysigrwydd harbyrau ar hyd arfordir Gwynedd, sydd yn bwysig i gymunedau lleol ac economi’r ardal".

Llun: Google Maps

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.