Rôl newydd i Sue Gray yn Llywodraeth y DU gyda chyfrifoldeb am y cenhedloedd
Mae Sue Gray wedi rhoi’r gorau i'w swydd fel pennaeth staff Downing Street ac wedi ei phenodi'n gennad y Prif Weinidog ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau.
Mae adroddiadau bod tensiynau yn Rhif 10 oherwydd Ms Gray, gan gynnwys rhyngddi hi a phrif ymgynghorydd Syr Keir Starmer, Morgan McSweeney, a fydd yn ei holynu fel pennaeth staff.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd Ms Gray ei bod yn “falch o fod wedi derbyn rôl newydd fel cennad y Prif Weinidog ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau".
Ond mae hynny eisoes wedi ei feirniadu. Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mae Syr Keir Starmer yn "dipyn o broblem" i Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan.
'Anhrefn'
“Dri mis ers i Keir Starmer afael yn yr awenau, mae'n glir nad yw'n poeni lawer am Gymru", meddai Mr ap Iorwerth.
“Addawodd Llafur newid, ond mae cael gwared ag anhrefn y Ceidwadwyr a newid hynny am fath gwahanol o anhrefn gan Lafur, yn dal i olygu anhrefn.
“A 'sgwn i sut mae Llafur yng Nghymru, Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Weinidog Cymru yn teimlo?
“Does ryfedd nad yw Eluned Morgan eisiau crybwyll Keir Starmer yn y Senedd. Mae'n dipyn o broblem iddi, ac yn amlwg mae Cymru yn broblem iddo fe".
Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi ymateb i sylwadau arweinydd Plaid Cymru ond dywedodd llefarydd wrth Newyddion S4C fod "Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen i weithio gyda Sue Gray ac aelodau eraill Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau er mwyn cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer pobl Cymru”.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol ei bod hi'n "llanast" yn Downing Street: “Mewn llai na 100 niwrnod, mae Llywodraeth Lafur Syr Keir Starmer yng nghanol anhrefn - mae e bellach wedi colli ei bennaeth staff".
A dywedodd Robert Jenrick sydd yn y ras i arwain y Ceidwadwyr: “Does gan (Syr Keir) Starmer ddim ymgynghorydd diogelwch, ysgrifennydd preifat a bellach mae ei brif was sifil wedi mynd".
Mae Syr Keir wedi diolch i Ms Gray am ei chefnogaeth iddo yn yr wrthblaid ac yn y llywodraeth: “Mae Sue wedi chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau ein cysylltiadau â’r rhanbarthau a’r gwledydd. Rwy’n falch iawn y bydd yn parhau i gefnogi’r gwaith hwnnw”, meddai.
Anrhydedd
Mewn datganiad, dywedodd Ms Gray: “Mae wedi bod yn anrhydedd i gymryd rôl pennaeth staff, a chwarae fy rhan yn y gwaith o ddarparu Llywodraeth Lafur.
“Drwy gydol fy ngyrfa fy niddordeb cyntaf erioed yw gwasanaeth cyhoeddus.
“Fodd bynnag, yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae wedi dod yn amlwg i mi fod perygl i sylwebaeth ddwys ar fy safbwyntiau dynnu sylw oddi ar waith hanfodol y llywodraeth yn cyflwyno newid.
"Am y rheswm hwnnw rwyf wedi dewis camu o’r neilltu, ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi’r Prif Weinidog yn fy rôl newydd.”
Ennill mwy na'r Prif Weinidog
Fis diwethaf, datgelodd y BBC fod Ms Gray yn ennill mwy na Phrif Weinidog y DU.
Clywodd y BBC fod Ms Gray yn ennill £170,000 - £3,000 yn fwy na Syr Keir.
Dywedodd Keir Starmer ym mis Medi: “Dydw i ddim yn trafod aelodau unigol o staff. Ni fyddwn yn gwneud hynny mewn perthynas ag unrhyw aelod o staff, nid wyf yn mynd i dorri’r rheol honno."