Image
Rhedwyr o Kenya yn ennill hanner marathon Caerdydd
06/10/2024
Mae dau o redwyr Kenya wedi ennill categori’r dynion a’r menywod yn ras hanner marathon Caerdydd ddydd Sul.
Fe enillodd Miriam Chebet (yn y llun uchod) ras y menywod mewn amser o 1:06:42.
Patrick Moisin (yn y llun isod) enillodd ras y dynion mewn un awr ac un eiliad.
Callum Hall (yn y llun isod) o Loegr oedd enillydd categori’r cadeiriau olwyn, gyda'i wraig Jade yn dod yn ail.
Image
Roedd 29,000 o gystadleuwyr o bedwar ban byd wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni, y nifer fwyaf erioed yn ôl y trefnwyr.
Image
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans