Newyddion S4C

Beirut yn profi'r 'noson waethaf eto' wrth i ymosodiadau Israel barhau

Beirut yn profi'r 'noson waethaf eto' wrth i ymosodiadau Israel barhau

Mae Beirut yn Libanus wedi profi'r noson waethaf eto, medd gohebwyr, wrth i Israel ymosod ar ganol y ddinas a'r maestrefi. 

Mae'r awyr uwchben y brifddinas yn wenfflam. 

Mae byddin Israel wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol, gan ychwanegu eu bod yn targedu safleoedd grŵp Hezbollah. 

Wrth i ymosodiadau Israel barhau yn Gaza a Libanus, mae Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron wedi rhybyddio “na all Libanus ddod yn Gaza arall”.

Mae Mr Macron wedi galw am atal anfon arfau i Israel i’w defnyddio yn Gaza, ac mae hynny wedi ei e feirniadu'n chwyrn gan Brif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu. 

“Cywilydd arnyn nhw,” meddai Mr Netanyahu.

Dywedodd Hamas fod o leiaf 24 o bobl wedi eu lladd a 93 wedi eu hanafu dros nos yn Gaza ar ôl i ymosodiadau awyr Israel dargedu mosg ac ysgol sy'n rhoi lloches i bobl sydd wedi'u dadleoli yn Gaza.

Dywedodd byddin Israel, yr IDF, eu bod wedi lladd 440 o aelodau Hezbollah a dinistrio 2,000 o'u targedau yn ne Libanus. 

Maen nhw wedi rhannu ffilm, sy'n dangos yr hyn maen nhw'n ei galw'n ganolfan reoli Hezbollah o dan ddaear, sydd wedi ei dinistrio. 

Dywedodd yr IDF mewn datganiad: “Mae sefydliad terfysgol Hezbollah yn gosod eu cyfleusterau cynhyrchu arfau ac arfau yn fwriadol o dan adeiladau preswyl yng nghanol dinas Beirut, gan roi poblogaeth sifil yr ardal mewn perygl."

Maen nhw hefyd yn dweud fod Hezbollah wedi tanio 30 o rocedi, a bod y mwyafrif wedi glanio yng Ngogledd Israel.   

Dywedodd Benjamin Netanyahu na fydd Israel yn goddef ymosodiadau gan Iran ac ychwanegodd "na fyddai unrhyw wlad arall yn y byd yn derbyn ymosodiad o'r fath".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.