Beirniadu Boris Johnson am beidio amlinellu na fydd newid i reolau Lloegr yn effeithio Cymru

13/07/2021

Beirniadu Boris Johnson am beidio amlinellu na fydd newid i reolau Lloegr yn effeithio Cymru

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi beirniadu Boris Johnson am fethu a phwysleisio na fydd y newidiadau i gyfyngiadau yn Lloegr yn effeithio ar bobl yng Nghymru.

Fe wnaeth Mr Johnson gyhoeddi rhagor o newidiadau i reolau Covid-19 yn Lloegr mewn cynhadledd i’r wasg nos Lun.

Eglurodd Mr Drakeford ei fod ef ac arweinwyr eraill wedi ymbil ar Michael Gove AS i annog Mr Johnson i bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng Lloegr, a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Dywedodd ei fod yn “siomedig” fod Mr Johnson wedi methu, ac nad oedd yn deall “pam fod y Prif Weinidog yn gweld hyn mor anodd”.

Roedd Mr Drakeford yn ymateb i gwestiynau gan arweinwydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, ar drothwy adolygiad Llywodraeth Cymru o gyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd y Prif Weindiog: “Mae pob rhan o’r Deyrnas Unedig yn symud yn yr un cyfeiriad. Efallai ein bod ni’n gwneud hyn ar gyflymderau gwahanol, ond mewn gwirionedd mae’r cyfeiriad o deithio yr un fath rhyngthyn ni gyd.

“Rydym ni gyd eisiau codi’r cyfyngiadau, a gwneud hynny mewn ffordd sy’n cadw pobl yn saff,” meddai.

Mae disgwyl i gabinet Llywodraeth Cymru gwrdd dydd Mercher er mwyn dod i benderfyniad ar ba gyfyngiadau fydd yn newid yng Nghymru o ddydd Llun.

Lluniau: Senedd TV 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.