Newyddion S4C

Rugby Buckets: Dyn o Faesteg yn gadael ei yrfa i greu hetiau bwced allan o hen grysau rygbi

Rugby Buckets: Dyn o Faesteg yn gadael ei yrfa i greu hetiau bwced allan o hen grysau rygbi

Mae dyn o Faesteg wedi gadael gyrfa 10 mlynedd yn y fyddin i redeg busnes llawn amser yn gwerthu hetiau bwced wedi eu gwneud allan o hen grysau rygbi.

Yn wreiddiol o Faesteg ymunodd Jack Wiles â'r Awyrlu Brenhinol yn 18 oed. Treuliodd bum mlynedd yno cyn symud i'r fyddin fel aelod o'r Grŵp Cefnogi Lluoedd Arbennig.

Fe ddaeth y cyfnod hwnnw i ben wyth mis yn ôl a dechreuodd swydd fel rheolwr prosiect gyda chwmni awyrofod, cyn penderfynu rhedeg busnes Rugby Buckets yn llawn amser.

"Unwaith 'da chi wedi gwneud rhywbeth am gyfnod hir, roeddwn i'n teimlo ei fod yn amser am newid," meddai wrth Newyddion S4C.

"Dechreuais swydd fel rheolwr prosiect gyda chwmni awyrofod, ond ar ôl i ni gael wythnos dda gyda Rugby Buckets penderfynais ymrwymo i wneud hynny llawn amser."

'100 het y diwrnod'

Ers yn fachgen ifanc roedd gan Jack diddordeb mewn creu crefftau, ac yn ystod ei gyfnod yn y fyddin roedd yn creu bagiau ymolchi allan o hen ddillad a'u gwerthu i'w gydfilwyr.

Pan ddechreuodd greu hetiau bwced allan o hen grysau rygbi roedd bob dim yn cael ei greu yn ei ystafell wely, ond fe dyfodd y cwmni yn sydyn iawn.

"Dechreuodd y cwmni yn fy ystafell wely, wedyn symud i'r ystafell fyw, wedyn uned lai oedd tua maint swyddfa, a nawr ar ôl chwe mis symud i'r uned sydd gennym ni ar hyn o bryd," meddai.

"Ni wedi bod yn ffynnu ers hynny. Dwi ddim yn teimlo fel bod fi'n gweithio rhagor, mae'n anhygoel."

Image
Jack Wiles
Fe allai Jack gweithio yn yr uned am hyd at 18 awr y diwrnod.

Mae diwrnodau Jack yn dechrau yn gynnar iawn. Fel arfer fe fydd yn y swyddfa erbyn tua phedwar y bore ac yn creu cynnwys i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Rugby Buckets, cyn dechrau ar greu'r hetiau bwced.

Mae ganddo dros 60,000 o ddilynwyr ar Instagram a bron 20,000 ar TikTok ac mae wedi gweithio gyda chlwb Exeter Chiefs ac enwogion y byd chwaraeon fel Joe Marler a'r chwaraewr dartiau Joe Cullen.

Mae'n medru creu hyd at 100 het y diwrnod.

"Bob dydd am 12:15 mae'r post yn cyrraedd ac fe allai hyd at 20 gyrraedd mewn un diwrnod," meddai.

"Maen nhw'n mynd i'r bocsys wedyn ac fe fyddai'n cymryd y crysau o un bocs ac mae hwnnw'n mynd ar y press er mwyn ei dorri i'r maint sydd ei angen.

"Ar ôl hynny ni'n mynd ymlaen i'r heat press er mwyn rhoi strwythur i'r het, cyn iddyn nhw gael eu gwnïo, fyddai'n gwirio bod yr het o ansawdd ac yna maen nhw'n cael eu danfon allan."

Image
Rugby Buckets
Mae angen gwneud yn siwr bod y mesurau yn berffaith cyn torri'r crys.

'Mor prowd'

Fe allai cwsmeriaid anfon eu crysau i Jack er mwyn iddo eu troi i mewn i hetiau bwced, neu mae modd prynu rhai sydd wedi eu gwneud yn barod oddi ar wefan y cwmni.

Nid oedd tad Jack, Damon Wiles, yn sylweddoli pa mor fawr oedd y galw am hetiau bwced o'r fath yma, ond mae'n falch iawn bod ei fab wedi cymryd y cam i ddechrau'r busnes.

"O'dd e'n dod mas o'r military, a o'dd e'n cael job dda i mynd mewn i. O'dd e'n dechrau'r job a wedyn o'dd e'n dweud bod e'n mynd i wneud hwn full time," meddai wrth Newyddion S4C.

"O fi tipyn bach yn ofnus yn gyntaf, ond wedyn, nawr ma' fe wedi dangos i fi bod e'n gallu neud busnes mas o hwn.

"Fi'n prowd iawn o fe, popeth ma' fe wedi 'neud."

Mae Jack yn caru creu’r hetiau bwced ac yn sylweddoli faint mae’r crysau yn eu golygu i’w gwsmeriaid.

"Mae nifer o'r crysau ni'n gwneud yn sentimental i bobl," meddai.

"Felly fe allai'r crys fod yn un rhiant i rywun sydd wedi marw, a dyw e ddim yn ffitio'r mab neu'r ferch.

"Rydym ni'n ei droi mewn i rywbeth mae modd gwisgo ac mae hynny'n beth da."

Image
Damon a Jack Wiles
Damon a Jack Wiles yn cymryd golwg ar un o'r hetiau bwced.

'Troi unrhyw beth mewn i het bwced'

Ers dechrau'r busnes, mae Jack wedi symud i greu hetiau bwced allan o hen grysau pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, dartiau a mwy.

Menter nesaf Rugby Buckets yw creu hetiau allan o ddillad vintage, ac mae fideo o Jack yn torri hen bâr o jîns denim eisoes wedi cael mwy 'na 2 miliwn o sesiynau gwylio.

"Mae'n grêt bod e'n meddwl am rywbeth gwahanol achos ti'n gallu 'neud crysau rygbi ond, bydd hwnna'n mynd mwy dawel," meddai tad Jack, Damon Wiles.

"Felly mae'n 'neud crysau American football a crysau mas o denim jeans a pethau fel'na. Felly mae'n meddwl am rywbeth trwy'r amser i gario 'mlaen a mynd lan a lan gyda'r busnes, ti'mod?"

Ychwanegodd Jack: "Mae marchnad yna i ni, ac rydym ni eisiau stopio pethau rhag mynd mewn i'r bin.

"Felly newn ni droi unrhyw beth mewn i hetiau bwced, bob tro."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.