Newyddion S4C

Mike Lynch wedi 'marw trwy foddi' ar ôl i long y Bayesian suddo

Mike a Hannah Lynch

Mae cwest i farwolaeth y biliwnydd Mike Lynch wedi clywed iddo farw trwy foddi wedi llongddrylliad y Bayesian.

Bu farw Mr Lynch, 59, a'i ferch, Hannah Lynch, 18, cadeirydd y banc rhyngwladol Morgan Stanley, Jonathan Bloomer, 70, a'i wraig Judy Bloomer, 71, ar ôl i'r cwch suddo oddi ar arfordir Sisili yn yr Eidal ym mis Awst. 

Fe gafodd cwest i'w marwolaethau ei agor yn Ipswich ddydd Gwener, gan gael ei ohirio tan 15 Ebrill 2025.

Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Heddlu Suffolk, Michael Brown, mai 'boddi oedd achos marwolaeth' Mr Lynch, ond fe ychwanegodd bod ymchwiliad yn parhau i achos marwolaeth y tri arall.

Image
Judy a Jonathan Bloomer
Roedd Judy a Jonathan Bloomer yn byw yng Nghaint 

Roedd 22 o bobl ar fwrdd y Bayesian pan suddodd, gyda 15 ohonynt yn cael eu hachub, gan gynnwys gwraig Mike Lynch, Angela Bacares. 

Bu farw tri arall yn y trychineb, sef cyfreithiwr cwmni Clifford Chance, Chris Morvillo a'i wraig Neda Morvillo, a Recaldo Thomas oedd gogydd ar y cwch.

Roedd y daith yn ddathliad o ganlyniad i achos llys yn ymwneud â thwyll yn erbyn Mr Lynch yn America.



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.