Dynes wedi ei chyhuddo o lofruddiaeth dyn yn Wrecsam
03/10/2024
Mae dynes 50 oed wedi cael ei chyhuddo o lofruddio dyn yn Wrecsam.
Cafodd Joanna Wronska o Bentre Gwyn yn y ddinas ei chyhuddo ar ôl digwyddiad mewn tŷ ym Mhentre Gwyn ar 23 Hydref y llynedd.
Bu farw dyn 40 oed yn y fan a'r lle.
Mae Joanna Wronska wedi ei chadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ddydd Iau.