Achos o'r tafod glas mewn anifail ar Ynys Môn
Mae achos arall o'r Tafod Glas wedi ei ddarganfod mewn anifail yng Nghymru - y tro yma ar Ynys Môn.
Daw wedi i dri achos o'r un math (seroteip 3 BTV-3) gael ei ddarganfod mewn defaid yng Ngwynedd yr wythnos diwethaf. Fel yn yr achosion yna, mae'r achos diweddaraf wedi ei ddarganfod mewn anifail gafodd ei symud i Gymru o Ddwyrain Lloegr.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru nos Fercher:"Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am y clefyd a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel."
Mae’r Tafod Glas yn glefyd sy’n cael ei drosglwyddo gan bryfed gwybed sy’n cnoi (‘biting midges’), gan effeithio ar wartheg, geifr, defaid a cheirw yn bennaf, yn ogystal â chamelod fel alpacas a lamas.
Gallai symptomau o’r clefyd - all droi tafod anifeiliaid yn las - amrywio, gyda rhai anifeiliaid yn dangos ychydig iawn o arwyddion eu bod wedi’u heintio.
Ond mae'r clefyd yn achosi problemau o ran cynhyrchu llaeth neu atgenhedlu, ac yn yr achosion mwyaf difrifol gall arwain at farwolaeth.
Mae'n broblem sylweddol bellach yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda chyfyngiadau ar symud anifeiliaid mewn grym yno.
Nid yw’r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na ddiogelwch bwyd.