600 o swyddi yn y fantol yng Nghyngor Caerffili
Gallai hyd at 600 o swyddi ddiflannu yng Nghyngor Caerffili fel rhan o ymgais i arbed "swm enfawr" o arian.
Dywedodd y cyngor bod disgwyl gorfod arbed £45 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf - £33m o'r swm hwnnw eleni..
Mae'r bwlch yma yn y gyllideb oherwydd bod cost darparu gwasanaethau wedi cynyddu ar raddfa gyflymach na grantiau'r cyngor gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cyfrannu at ran fwyaf y gyllideb, meddai Cyngor Caerffili.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Sean Morgan y gallai £28 miliwn cael ei arbed dros y ddwy flynedd nesaf.
"Mae hwn fel llymder at sterioids," meddai.
"Fe fydd y cyngor yn wynebu colli 600 o swyddi - mae hynny tua 10% o'n gweithlu presennol."
Mae'r cyngor yn dweud y byddan nhw'n ceisio gwneud cyn lleied a phosib o ddiswyddiadau gorfodol, gan roi'r pwyslais ar beidio llewni swyddi a chynni gymddeoliad cynnar.
"Nid yw unrhyw un eisiau bod yn y sefyllfa hon, ond dyma'r sefyllfa sydd wedi ei orfodi arnon ni," meddai'r Cynghorydd Morgan.