Ysgol Dyffryn Aman: Athrawon wedi ofni eu bod nhw'n 'mynd i farw’
Ysgol Dyffryn Aman: Athrawon wedi ofni eu bod nhw'n 'mynd i farw’
Mae llys wedi clywed gan ddwy athrawes a gafodd eu trywanu mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill eu bod nhw meddwl eu bod nhw'n mynd i farw.
Clywodd Llys y Goron Abertawe dystiolaeth fideo fore Mercher gan ddirprwy bennaeth yr ysgol, Fiona Elias, ac athrawes gynorthwyol, Liz Hopkin.
Dywedodd Fiona Elias ei bod hi’n “crynu” a gyda “gwaed ar ei breichiau” ar ôl llwyddo i ffoi oddi wrth yr ymosodiad.
Mae merch 14 oed nad oes modd ei henwi wedi ei chyhuddo o dri achos o geisio llofruddio. Mae eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Clywodd y llys bod yr athrawon Fiona Elias (chwith uchod) a Liz Hopkin (dde) ac un disgybl wedi eu hanafu yn ystod y digwyddiad ar 24 Ebrill.
Roedd y ferch wedi gweiddi: “Mi wna i dy f***ng ladd di” wrth ymosod ar Fiona Elias, meddai.
“Fe wnaeth greddf gymryd drosodd,” meddai Mrs. Elias. “Ro’n i’n ceisio ei stopio hi a chymryd y gyllell oddi arni.
“Pan ddechreuodd hi fy nhrywanu i roeddwn i’n meddwl fy mod i’n mynd i farw. Ro’n i’n meddwl mai dyna oedd y diwedd.
“Roedd golwg ar ei gwyneb hi. Roedd y niwl coch wedi dod i lawr, roedd hi wedi colli arni’n llwyr.
“Doeddwn i ddim yn teimlo yn ofn,” meddai. “Roeddwn i eisiau cael y gyllell oddi arni fel nad oedd hi’n anafu neb arall.”
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1841455600997163017
Dywedodd Mrs Elias fod yr athrawes arall oedd yn rhan o’r ymosodiad, Liz Hopkin, wedi dweud wrthi ffoi a’i bod hi wedi mynd i mewn i’r bloc gweinyddol ar safle'r ysgol.
“Doeddwn i ddim yn gwybod pa anafiadau oedd gen i ond roeddwn i’n gallu gweld gwaed. Roedd fy mreichiau yn pigo gyda phoen.”
Dywedodd bod y ferch wedi edrych arni mewn ffordd “sinistr” a “bygythiol” cyn yr ymosodiad.
“Roedd hi’n edrych reit drwydda i mewn ffordd oedd yn gwneud i fi deimlo'n anghyfforddus,” meddai.
Cyn y digwyddiad roedd wedi siarad â'r disgybl am beidio a mynd i mewn i un o neuaddau yr ysgol ac am ei throwsus ysgol nad oedd yn cyd-fynd â'r rheolau, meddai.
'Gormod o boen'
Gwyliodd y llys dystiolaeth fideo gan Liz Hopkin, athrawes cynorthwyol a gafodd ei thrywanu yn ei choes, ei gwddf a’i chefn.
Dywedodd bod y ferch a oedd yn 13 ar y pryd wedi edrych ar Mrs Elias yn “rhyfedd iawn, heb flincio”.
Dywedodd pan gafodd ei thrywanu yn ei gwddf fe feddyliodd: “Shit, dyma ni.
“Ro’n i’n teimlo, ma hi’n mynd i fy lladd i nawr, dyma’r diwedd nawr. Fe aeth hi am fy ngwddf.
“Ro’n i’n meddwl shit ma rhaid i fi ddal ymlaen ynddi achos os dydw i ddim pwy a wyr beth fydd yn digwydd.
“Ro’dd o’n deimlad pigo poeth iawn. Roedd o’n teimlo yn bwerus. Dydw i ddim yn siwr sut ges i fy nharo yn fy nghefn.
“Pan wnes i eistedd i lawr ar y grisiau a mi wnes i deimlo bod fy nillad yn wlyb iawn. Roedd yna lot o bobl yn dod i fy ngweld i a gweld lle oeddwn i wedi fy anafu.
“Mi wnes i geisio tynnu fy lanyard i ffwrdd ond roedd gormod o boen yn fy ngwddf.”
Ychwanegodd: "Dwi i’n falch o fod yn fyw ac yn falch bod Fiona yn fyw. Dwi’n teimlo os nad oeddwn i wedi ymyrryd fe allai hi fod yn farw nawr.”
‘Ffilm arswyd’
Wrth roi tystiolaeth yn y llys dywedodd athro arall, Darrel Campbell bod y ferch wedi sgrechian “mewn ffordd erchyll, fel rhywbeth allan o ffilm arswyd” cyn ymosod ar ddisgybl ychydig funudau yn ddiweddarach.
“Fe wnaeth hi sgrechian: ‘Rydw i’n mynd i dy f****ng ladd di, y b**sh.’ Yna rhedodd tuag at y disgybl.
“Ro’n i y tu ôl iddi ac fe welais i’r llafn yn ei llaw. Fe wnaeth hi redeg tuag ati a dechrau ymosod gyda’r llafn yn dod i lawr tuag at ei phen a’i hysgwydd.
“Llwyddodd i’w tharo hi cyn i fi gael gafael ar ei harddwrn.
“Roedd hi wedi colli arni i’r fath raddau, a’r ymosodiad mor dreisgar, fe allai fod wedi gwneud unrhyw beth. Roedd hi wedi colli rheolaeth yn llwyr.”
'Golwg bell’
Clywodd y llys hefyd dystiolaeth gan Stephen Haggett, athro arall yn yr ysgol welodd yr ymosodiad ar y disgybl.
“Fe wnaeth hi [y diffynydd] ymdrech i drywanu'r disgybl ond dwi’n credu mai dim ond un oedd yn llwyddiannus. Roedd yn ymddangos i mi fod dau gynnig.”
Baglodd y disgybl a gafodd ei thrywanu a disgynnodd ar y llawr, meddai, a llwyddodd Mr Campbell i afael yn y disgybl oedd â’r llafn.
“Rydw i’n berson cymorth cyntaf cymwys felly fy ngreddf gyntaf oedd cynorthwyo'r disgybl,” meddai.
“Ro’n i’n gallu gweld ei bod wedi cael anaf i’w hysgwydd.”
Dywedodd ei fod yn ymateb i ddechrau i alwad gan ddisgyblion fod yna “ffeit” ac nad oedd yn gwybod i ddechrau bod athrawon wedi eu hanafu.
Erbyn iddo gyrraedd roedd Fiona Elias a Liz Hopkin wedi ffoi ond gwelodd y diffynnydd yn sefyll yn yr iard gyda chyllell yn ei llaw a “golwg bell” ar ei hwyneb.
Dywedodd ei bod hi wedi dweud: “Dw i’n mynd i’w f***ing ladd hi os ydw i’n ei gweld hi eto.”
Roedd Mr Campbell wedi gofyn iddi am y gyllell ond roed hi wedi ffoi rownd cornel adeilad cyn trywanu'r disgybl arall, meddai.
Dywedodd athrawes arall, Fiona Harris, mewn tystiolaeth ysgrifenedig ei bod hi wedi gweld Liz Hopkin yn cael ei thrywanu.
“Fe welais Liz yn symud, yn ceisio osgoi cael ei thrywanu,” meddai.
“Byddwn yn disgrifio Liz fel pincws (pincushion), roedd yn ffiaidd.”
‘Beth ydw i wedi ei wneud?’
Gwyliodd y rheithgor hefyd gyfweliad fideo gyda’r disgybl a gafodd ei thrywanu, a ddywedodd nad oedd hi’n deall pam bod y diffynnydd wedi ymosod arni.
Dywedodd mai ei hymateb cyntaf wrth glywed y ferch yn ei bygwth oedd dweud wrth ei ffrindiau: “Pam mae hi’n fy mygwth i, beth ydw i wedi ei wneud?”
Dywedodd ei bod hi wedi syrthio ar y llawr ac amddiffyn ei hun gyda’i choesau a’i breichiau.
“Fe deimlais i rywbeth yn bwrw fy mraich ond roedd yn teimlo fel ‘tap’, oherwydd yr adrenalin,” meddai.
“Dydw i ddim yn siŵr pryd ges i fy anafu, wnes i ddim wir teimlo fe.
“Pan godais i mi wnes i weiddi ‘y f***ing seico’ am fy mod i yn flin ac wedi cael ofn.”
‘Enwog’
Mae'r rheithgor eisoes wedi gweld fideo o’r ymosodiad cychwynnol, a’r ymosodiad ar y disgybl rai munudau yn ddiweddarach.
Wrth gael ei chludo i orsaf yr heddlu yn Llanelli honnir i'r diffynydd ofyn: ‘Ydyn nhw wedi marw?’
Ychwanegodd: "Dw i'n eitha' sicr y bydd hyn ar y newyddion. Felly bydd mwy o lygaid yn edrych arna i. Dyna un ffordd i fod yn enwog.”
Yn ddiweddarach daeth yr heddlu o hyd i lyfrau nodiadau oedd yn cynnwys enwau'r disgybl ddioddefodd yn ystod yr ymosodiad a Fiona Elias, lluniau a iaith dreisgar.
Mae'r llys wedi clywed mai Ms Hopkin oedd wedi ei hanafu waethaf. Bu'n rhaid iddi gael ei hedfan i Gaerdydd lle cafodd driniaeth am glwyfau trywanu i'w phen-glin, rhan isaf ei choes, ei brest ac o dan lafn ei hysgwydd. Roedd y clwyf gwaethaf i'w gwddf.
Fe gafodd Ms Elias a'r ferch yn ei harddegau eu cludo i'r ysbyty yn Abertawe, ac fe wnaethon nhw hefyd dderbyn triniaeth am glwyfau trywanu.
Bydd yr achos llys yn parhau ddydd Iau, ac mae disgwyl iddo barhau hyd nes ddiwedd yr wythnos nesaf.