Israel yn anfon byddin i mewn i Libanus
Mae Israel wedi anfon ei byddin i mewn i dde Libanus am y tro cyntaf ers 2006.
Yn ôl byddin Israel maent yn cynnal "cyrchoedd cyfyngedig ar dargedau penodol" Hezbollah mewn pentrefi yn agos at y ffin.
Yn y brifddinas, Beirut mae ffrwydradau hefyd wedi eu clywed.
Mae Israel yn dweud ei bod wedi gweithredu er mwyn galluogi Israeliaid oedd wedi gorfod ffoi ar ôl ymosodiad Hamas ar 7 Hydref i ddychwelyd.
Yn y pythefnos diwethaf mae dros 1,000 o bobl wedi marw yn Libanus meddai swyddogion y wlad.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi trefnu awyren ar gyfer dinasyddion o Brydain i allu gadael y wlad wrth i'r tensiynau rhwng Hezbollah ac Israel gynyddu.
Mae yna alwadau rhyngwladol gan arweinwyr am gadoediad a'r angen i osgoi i'r rhyfel ehangu.
Llun: Wochit