Cyhoeddi enw bachgen wyth oed a gafodd ei saethu'n farw ar fferm
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r bachgen wyth oed a gafodd ei saethu'n farw ar fferm yn ardal Cumbria, Gogledd Lloegr.
Cafodd Jay Cartmell ei anafu yn ei ben a'i wyneb ar dir ger ffordd yr A66, i'r gogledd o Warcop.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno tua 2.50 brynhawn Sadwrn.
Cafodd gwn ei ddarganfod ar y safle a chafodd y bachgen o Frizington, Cumbria ei gludo i ysbyty gerllaw mewn ambiwlans awyr.
Bu farw rai oriau yn ddiweddarach.
Cafodd dyn yn ei 60au ei arestio ar y safle ar amheuaeth o ymosod.
Cafodd ei gludo i orsaf yr heddlu yn ddiweddarach a'i holi ar amheuaeth o ddynladdiad trwy esgeulustod difrifol.
Mae e wedi ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae Heddlu Cumbria yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Llun: Frank Chalmers