Newyddion S4C

Katie Piper i gerdded i gopa'r Wyddfa gyda goroeswyr ymosodiadau llosg

28/09/2024
Katie Piper.png

Fe fydd yr ymgyrchydd Katie Piper yn dringo i gopa'r Wyddfa ddydd Sadwrn gydag eraill sydd wedi goroesi ymosodiadau llosg i godi arian at elusen. 

Fe gafodd Ms Piper ei hanafu yn ddifrifol wedi ymosodiad asid yn 2008. 

Mae wedi cael cannoedd o driniaethau yn sgil y niwed a gafodd ei wneud i'w hwyneb a'i golwg yn dilyn yr ymosodiad a gafodd ei drefnu gan ei chyn-gariad. 

Fe gafodd Daniel Lynch a Stefan Sylvestre, y dyn a daflodd yr asid arni, eu carcharu am oes yn 2009. 

Fe gollodd Ms Piper ei golwg mewn un llygad, ond fe lwyddodd meddygon i'w adfer. 

Sefydlodd The Katie Piper Foundation 2010 er mwyn helpu eraill sydd wedi goroesi ymosodiadau llosg. 

Mae'r elusen yn ceisio cynnig cymorth i ansawdd bywyd goroeswyr, drwy eu cefnogi yn gorfforol, meddyliol ac yn emosiynol drwy raglen adferiad. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.