Phillip Schofield yn dychwelyd i'r teledu wedi cyfnod 'tywyll'
Mae’r cyflwynydd Phillip Schofield wedi dweud bod ei ddwy ferch wedi helpu iddo “gamu yn ôl o’r dibyn” wrth iddo ddychwelyd i’r sgrin fach am y tro cyntaf ers iddo ymddiswyddo o raglen This Morning.
Mi fydd Schofield, 62 oed, yn dychwelyd i’r byd deledu fel rhan o gyfres Channel 5, Phillip Schofield: Cast Away nos Lun, a fydd yn ei ddilyn wrth iddo dreulio cyfnod yn byw ar ynys Nosy Ankarea, oddi ar arfordir Madagascar ar ei ben ei hunain.
Daw wedi iddo gyfaddef i berthynas “annoeth ond nid anghyfreithlon” y tu allan i’w briodas gyda dyn iau oedd yn gyd-weithiwr iddo, ym mis Mai 2023. Roedd yn gyflwynydd This Morning ers 2009.
Yn ystod y rhaglen dogfen tair rhan, mae’r cyflwynydd yn dweud roedd yn rhaid i’w ferched, Ruby a Molly Schofield, edrych ar ei ôl tra oedd yn wynebu cyfnod “tywyll”.
Roedd hefyd yn awgrymu ei fod wedi ystyried hunanladd gan ddweud, “’Des i’n mor, mor agos… roedd popeth yn ei le, roedd popeth yn barod.”
Roedd siarad am ei deimladau gyda’i ferched wedi helpu, meddai, gyda Molly yn annog iddo ystyried yr effaith y byddai ei farwolaeth yn ei chael arnyn nhw.
'Cyfnod anodd'
Mae’r cyflwynydd a’i ferch, Molly, hefyd yn trafod yr heriau yr oedd ef wedi ei wynebu wedi iddo ddweud yn gyhoeddus ei fod yn hoyw.
Fe benderfynodd gyhoeddi hynny yn fyw ar bennod This Morning yn 2020, a hynny mewn sgwrs gyda’i gyd-gyflwynydd ar y pryd, Holly Willoughby.
Dywedodd Molly bod y cyfnod hwnnw yn “anodd” i’w theulu ac yn enwedig i’w mam, Stephanie Lowe, sydd wedi bod yn briod i Phillip Schofield ers dros 20 mlynedd.
Roedd y cyhoeddiad wedi troi eu bywyd teuluol nhw “yn ben i waered”, ychwanegodd, ond mae’r teulu cyfan wedi ei gefnogi trwy gydol y broses, meddai.
Dywedodd Phillip Schofield bod eu cefnogaeth nhw wedi bod yn gyson hefyd, er iddo wynebu heriau wedi iddo benderfynu cyhoeddi ei fod yn hoyw “yn hwyrach ym mywyd.”
Bydd Phillip Schofield: Cast Away yn cael ei ddarlledu am 21.00 nos Lun ar Channel 5. Bydd yr ail a thrydedd bennod yn cael eu darlledu am yr un amser nos Fawrth a nos Fercher.
Lluniau: Channel 5 Broadcasting Limited/Burning Bright Productions/PA Wire