E-chwaraeon: Cymru i gystadlu yng Nghwpan y Byd mewn camp newydd
E-chwaraeon: Cymru i gystadlu yng Nghwpan y Byd mewn camp newydd
Ychydig fisoedd yn ôl roedd Rhys Richardson, Ieuan James a rhai o'u cydweithwyr yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni erioed wedi chwarae HADO - ond y flwyddyn nesaf fe fydd y criw yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd.
Yn debyg iawn i gêm Street Fighter, mae HADO yn gêm realiti estynedig (AR) lle mae dau dîm o dri yn wynebu ei gilydd a saethu peli ar dargedau'r gwrthwynebwyr.
Mae modd newid maint a chyflymder y peli ac mae tariannau ar gael i flocio yn ogystal. Mae gan bob chwaraewr bedwar targed i'w daro.
80 eiliad yw hyd y gêm ac mae modd ennill un pwynt bob tro mae'r pedwar targed ar un chwaraewr wedi eu dinistrio.
Rhys Richardson, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Gyfun Cwm Rhymni oedd y chwaraewr cyntaf i gael ei ddewis dros Gymru wedi iddo chwarae HADO am y tro cyntaf yng ngŵyl gemau Insomnia.
"Roeddwn i wedi chwarae am y tro cyntaf yn Insomnia yn Birmingham, a roedd pethau wedi datblygu o hwnna," meddai wrth Newyddion S4C.
"Wnaeth John Jackson, Prif Weithredwr o E-Chwaraeon Cymru holi os petai rhyw diddordeb gyda fi i chwarae dros Cymru yn y camp.
"A dywedais i 'ie dim problem, nai roi fy enw mewn i'r het a nai ffindo rhywun arall hefyd.' So ges i cwpl o negeseuon testun gyflm gyda fy nghydweithwyr o'r ysgol a wedyn gethon ni ein dewis ar gyfer y tîm cenedlaethol."
'Teimlad arbennig'
Roedd yn rhaid i Gymru orffen yn y chweched safle neu’n uwch yng nghystadleuaeth Ewrop i gymhwyso i Gwpan y Byd.
Fe wnaeth buddugoliaeth yn erbyn yr Alban sicrhau hynny ac mae’r edrych ymlaen at y cystadlu yn Shanghai ym mis Mehefin 2025 eisoes wedi cychwyn.
"Prif nod ni o'dd dod yn chweched neu'n uwch yn y gystadleuaeth er mwyn i ni sicrhau lle, er mwyn i ni mynychu Cwpan y Byd yn Shanghai," meddai Rhys.
"A'r eiliad wnaeth ni curo yr Alban yn y rowndiau derfynol o'dd e'n teimlad wych, arbennig."
Cafodd Ieuan James o Bontlotyn yng Nghaerffili ei wahodd gan Rhys i chwarae HADO dros Gymru.
Er nad oedd yn ymwybodol o fodolaeth y gamp, roedd wedi mwynhau yn syth.
"I fod yn deg wnes i ddim clywed amdan HADO cyn i Rhys dweud wrthof fi. Ond ers y European Championships mae'n poblogaidd iawn.
"Fi'n meddwl mai'r lluniau yn dweud y stori i gyd i fod yn deg, roedd e'n campus iawn ac roedden ni gyd yn hapus a wnaethon ni joio'r noson."
'Camp anhygoel'
Yn wahanol i gemau cyfrifiadurol eraill mae HADO yn cynnwys elfen gorfforol sydd yn hollbwysig.
Cafodd HADO ei chydnabod fel camp E-chwaraeon yn 2014, ac mae wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
I Rhys Richardson a Ieuan James, mae colli pwysau trwy chwarae HADO a mynd i'r gampfa yn un o'u prif nodau cyn Cwpan y Byd ymhen naw mis.
"Cymhelliant masif i golli pwysau cyn hwnna," meddai Ieuan.
Ychwanegodd Rhys Richardson: "Pan o'n i lan yn Warwick roeddwn i wedi neud 15,000 o steps ar y cyrtiau.
"Ma' fe'n camp anhygoel i ddweud y gwir gan bod chi'n cyfuno'r ochr cyfrifiadurol, lle fi 'di arfer chwarae gemau ar y cyfrifiadur neu ar y console.
"Ond plethu a gweu hwnna gyda'r ochr corfforol."
"Fi'n credu bydd e'n teimlad wych eto i gynrychioli'r wlad ac i mynychu'r gynhadledd allan yna, fi wir methu aros."
'Cymru'n cystadlu ar y lefel uchaf'
Mae E-Chwaraeon Cymru wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, a bellach mae 13 o glybiau yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weithredwr y corff cenedlaethol, John Jackson ei fod am i HADO a gemau eraill dyfu yng Nghymru.
"Cymru yn chwarae ar y lefel uchaf yw'r nod, rydym ni eisiau gweld Cymru allan yna yn cystadlu.
"Ni eisiau i dod â phobl i Gymru ond hefyd dangos yr hyn rydym ni'n gallu cyflawni."
Bellach mae Cymru wedi chwarae dros 100 o gemau rhyngwladol a bydd cystadlu yng Nghwpan y Byd HADO yn ychwanegu at hynny.
"Byddwn yn mynd â chwaraewyr i Bali, Montenegro, Azerbaijan, Romania a Phortiwgal.
"Hefyd byddwn yn mynd â chwaraewyr i Saudi Arabia i chwarae am wobr o £1 miliwn.
"Felly mae wedi tyfu o ddim byd i rywbeth enfawr ac mae chwaraewyr yn gallu dechra eu taith gyda E-Chwaraeon Cymru."
Efelychu Aaron Ramsey
Fel bachgen o Gaerffili sydd yn hoff o bêl-droed mae Ieuan James eisiau efelychu Cymro arall sydd wedi chwarae yng Nghwpan y Byd.
O'r un sir ac ysgol, bydd Ieuan ac Aaron Ramsey yn gallu dweud eu bod wedi cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf yn eu campau.
"Fel person syd yn hoffi pêl-droed hefyd, i ddweud yr un peth ac Aaron Ramsey wnaeth ddod o'r ysgol yma.
"I cynrychioli'r ysgol yn Cwpan y Byd fydd e'n campus iawn."