Myfyriwr 19 oed wedi marw ‘ar unwaith’ ar ôl syrthio oddi ar fynydd Tryfan
Fe wnaeth myfyriwr 19 oed "bron yn sicr farw ar unwaith” ar ôl syrthio oddi ar fynydd Tryfan, clywodd cwest ddydd Gwener.
Bu farw Philip Zhu o Seaforth, Lerpwl ar ŵyl y banc 6 Mai ar ôl dioddef anafiadau difrifol i’w ben a’i asgwrn cefn.
Roedd wedi syrthio o uchder mawr ar y mynydd 3,010 troedfedd yn Nyffryn Ogwen wrth gerdded gyda’i frodyr.
Dyfarnodd y crwner John Gittins yn Rhuthun ei fod wedi marw yn ddamweiniol.
Dywedodd ei fod yn gobeithio bod ei ddau frawd a fu’n cerdded ag o “yn ymdopi a hynny ac yn delio efo’r trawma”.
Dywedodd ei frawd Andrew wrth yr heddlu eu bod nhw wedi mynd ar goll a cheisio cymryd llwybr mwy uniongyrchol i'r gwaelod,
“Roedd ar graig rydd a syrthiodd a llithro'r holl ffordd i lawr,” meddai.
Cafodd tîm achub mynydd Dyffryn Ogwen eu galw allan.
Roedd y brodyr wedi bod ar wyneb gorllewinol Tryfan. Aeth achubwyr i i leoliad y mae dringwyr yn ei alw yn V Cleft a dod o hyd i gorff y bachgen.
Cafodd y brodyr eu cynorthwyo oddi ar y mynydd.
Dywedodd Mr Gittins: “Doedd dim modd iddo oroesi'r anafiadau ac mae bron yn sicr ei fod wedi marw ar unwaith.”
'Balch iawn'
Clywodd y cwest fod Mr Zhu wedi gobeithio ymuno â'r Awyrlu Brenhinol.
Roedd wedi bod yn aelod o gampfa crefftau ymladd (martial arts) The Combat Unit yn Seaforth ers yn 11 oed ac yn hyfforddi plant a diffoddwyr proffesiynol.
Dywedodd ewythr y dyn ifanc, Philip Cheng, ar ôl y cwest: “Mae’r gymuned wedi torri ei chalon ond yn hynod gefnogol.
“Mae pawb yn y gampfa, pawb yn ardal Seaforth wedi bod yn anhygoel. Ni allwn ddiolch digon iddynt. Rydym yn falch iawn o Philip am bopeth a gyflawnodd.
“Roedd yn ddyn ifanc arbennig. Mae’n golled fawr i’n teulu.”
Fe wnaeth ei deulu godi £16,450 at ei angladd drwy wefan JustGiving.
Llun: JustGiving.