Pêl-droed: Golwg ar gemau dydd Sadwrn yn y Cymru Premier JD
Fuodd hi’n wythnos o ganlyniadau annisgwyl yn y Cymru Premier JD gyda Pen-y-bont yn dechrau’r cyfan drwy guro’r Seintiau Newydd nos Wener diwethaf.
Yna’n rhyfeddol fe gollodd y Seintiau eto nos Fawrth gyda’r Bala’n ennill oddi cartref yn Neuadd y Parc am y tro cyntaf erioed.
Curo oedd hanes y clwb o Groesoswallt nos Wener, a hynny o chwe gôl i un yn erbyn y Drenewydd, gan godi i'r pedwerydd safle.
Dyma gip ar y gemau sydd i ddod dydd Sadwrn:
Llansawel (11eg) v Y Bala (3ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30
“Rydyn ni wedi cyrraedd y parti, o’r diwedd!”
Dyna oedd datganiad Andy Dyer yn dilyn buddugoliaeth gyntaf Llansawel yn yr uwch gynghrair, oddi cartref yn erbyn y ceffylau blaen Pen-y-bont nos Fawrth.
Mae’r canlyniad wedi codi Llansawel oddi ar waelod y tabl ac yn hwb i hyder y newydd-ddyfodiaid fydd yn gobeithio adeiladu momentwm er mwyn dringo o safleoedd y cwymp.
Er y sioc yn Stadiwm Gwydr SDM, roedd yna ganlyniad mwy annisgwyl yn Neuadd y Parc yng nghanol wythnos wrth i’r Bala ennill oddi cartref yn erbyn y Seintiau am y tro cyntaf erioed.
Sgoriodd Christian Norton ei gôl gyntaf i’r Bala yn yr hanner cyntaf cyn i Alex Downes a Hussein Mehasseb daro yn y munudau olaf i hawlio triphwynt ardderchog i Hogiau’r Llyn.
Mae’r unig ddwy gêm flaenorol rhwng y clybiau yma wedi gorffen yn 2-0 i’r Bala, a bydd Colin Caton yn benderfynol o beidio ail-adrodd be wnaeth Pen-y-bont, sef curo’r pencampwyr, yna colli’n erbyn Llansawel ddyddiau’n ddiweddarach.
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌❌➖✅
Y Bala: ❌❌✅➖✅
Y Fflint (10fed) v Pen-y-bont (1af) | Dydd Sadwrn – 14:30
“Efallai nad ydyn ni mor dda ac oedden ni’n ei feddwl,” dyna oedd geiriau gonest a siomedig Rhys Griffiths ar ôl colli’n erbyn Llansawel nos Fawrth.
Er y golled mae Pen-y-bont yn parhau ar frig y tabl, ond mae’n teimlo fel cyfle mawr wedi ei fethu yn enwedig gan i’r Seintiau golli gartref yn erbyn Y Bala.
Colli bu hanes Y Fflint yng nghanol wythnos hefyd ar ôl ildio un gôl gynnar ac un gôl hwyr yn erbyn Caernarfon nos Fercher (Ffl 1-2 Cfon).
Hon fydd y gêm gyntaf rhwng y timau ers Hydref 2022 a dyw Pen-y-bont m’ond wedi ennill un o’u wyth gêm ddiwethaf yn erbyn Y Fflint.
Record cynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌✅✅➖❌
Pen-y-bont: ͏✅✅✅✅❌
Caernarfon (7fed) v Cei Connah (9fed) | Dydd Sadwrn – 17:15 (S4C)
Chwarter ffordd drwy’r tymor a nid llawer fyddai wedi darogan y byddai Cei Connah yn yr hanner isaf ar ôl colli hanner eu gemau cynghrair ac ennill dim ond dwy allan o wyth.
Mae Cei Connah wedi gorffen yn y ddau safle uchaf mewn pump o’r chwe tymor diwethaf (colli 18pt yn nhymor 2021/22), ond mae’r Nomadiaid yn dechrau’r penwythnos yn y9fed safle, ar ôl cychwyn araf i’r tymor presennol.
Dyw Caernarfon heb gael y dechrau delfrydol chwaith, ac ar ôl chwarae’n Ewrop dros yr haf mae’r Caneris wedi bod yn brwydro yn hanner isa’r tabl y tymor hwn.
Ond mae’r canlyniadau wedi gwella’n ddiweddar i Richard Davies a’i dîm sydd wedi sicrhau saith pwynt o’u tair gêm ddiwethaf.
Fe wnaeth y clybiau gyfarfod lai na phythefnos yn ôl, ac er i Billy Paynter ddechrau gyda tîm ifanc, Cei Connah oedd yn fuddguol yn nhrydedd rownd Cwpan Nathaniel MG (Cei 3-2 Cfon).
Record cynghrair diweddar:
Caernarfon: ❌❌✅➖✅
Cei Connah: ͏✅❌❌❌➖
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.