Ethol Gary Pritchard yn arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn
26/09/2024
Mae'r cynghorydd Gary Pritchard wedi cael ei ethol yn arweinydd newydd ar Gyngor Ynys Môn.
Y Cynghorydd Pritchard oedd yr unig ymgeisydd i roi ei enw ymlaen mewn cyfarfod llawn o'r awdurdod ddydd Iau.
Roedd wedi bod yn arweinydd dros dro gyda'r cynghorydd Robin Williams ers i Llinos Medi gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros yr ynys ym mis Gorffennaf.
Mae Mr Pritchard yn gynghorydd dros ward Seiriol ar yr ynys ag yn gyn-newyddiadurwr gyda'r BBC.