Newyddion S4C

'Methiant trychinebus': Addo cynnal adolygiad o wasanaeth Traws Cymru

25/09/2024
Traws Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal adolygiad o'r newidiadau i wasanaethau bws Traws Cymru, meddai'r Aelod o Senedd Cymru dros Fro Morgannwg.

Dywedodd Jane Hutt wrth y Senedd ddydd Mercher y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth yn "asesu effaith newidiadau" i wasanaethau bws Traws Cymru, gan edrych ar "yr holl ffyrdd" y mae'r gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio.

Daw'r adolygiad ar ôl i Mabon ap Gwynfor, Aelod o Senedd Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, ddweud wrth y Senedd bod newidiadau'r Llywodraeth i amserlenni'r gwasanaeth bws y llynedd wedi bod yn "fethiant trychinebus".

"Mae bron yn flwyddyn ers i ni weld newidiadau yn amserlenni bysiau llwybrau Traws Cymru, a hyn yn dilyn toriadau gan eich Llywodraeth chi," meddai. 

"Os ydy fy mewnflwch i yn unrhyw beth fel ffon fesur ar hyn, yna mae'n amlwg bod y newidiadau wedi bod yn fethiant trychinebus, efo pobl fregus yn methu cyrraedd gwasanaethau, a phlant a phobl ifanc yn methu cyrraedd clybiau chwaraeon, ac yn y blaen."

'Achubiaeth hanfodol'

Fe aeth ymlaen i alw am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth yn dangos asesiad o "effaith y toriadau" dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae cael gwasanaethau bws mewn cymunedau gwledig yn "bwysig".

"I'r henoed a'r bregus, maen nhw'n achubiaeth hanfodol ar gyfer apwyntiadau meddygol a siopa, tra bod llawer o drigolion eraill yn dibynnu arnyn nhw i deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith ac i fynychu'r ysgol a'r coleg," meddai.

"Mae prinder bysiau mewn ardaloedd gwledig yn gadael mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn ynysig – gyda’r rhai na allant fynd yn annibynnol i’r gwaith, y siopau neu i weld y meddyg yn gorfod troi at ffrindiau, tacsis, a chludiant cymunedol i’w cludo o un lle i’r llall."

Ychwanegodd fod y toriadau wedi cael effaith fawr ar gymunedau Llanuwchllyn, Llandderfel a Garndolbenmaen yng Ngwynedd.

"Cyflwynwyd y toriadau hyn heb unrhyw ymgynghori ystyrlon ymlaen llaw gyda chymunedau a defnyddwyr bysiau lleol," meddai. 

"Mae’r sefyllfa anghynaladwy hon yn cael effaith drychinebus ar ein cymunedau gwledig, ynghyd â thanseilio ymrwymiadau trafnidiaeth gyhoeddus ehangach."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.