Newyddion S4C

Buddsoddiad o £1 biliwn yn creu 220 o swyddi yn y gogledd

26/09/2024
Melin bapur Shotton

Bydd buddsoddiad o dros £1 biliwn o bunnoedd i ail-ddatblygu melin bapur ar Lannau Dyfrdwy yn creu 220 o swyddi newydd a diogelu bron i 150 yn rhagor.

Mae'n debyg mai  Shotton Mill fydd y ffatri bapur fwyaf yn y D.U yn sgîl y buddsoddiad, gyda bron y cyfan o'r papur wedi ei ail-gylchu.

Bydd gweinidogion o lywodraethau Cymru a'r D.U yn ymweld â 'r safle'n ddiweddarach ddydd Iau i gwrdd â   chynrychiolwyr Eren Holdings, cwmni o Dwrci wnaeth brynu'r safle yn 2021. Y nhw yw un o brif gynhyrchwyr cardbwrdd Ewrop.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu £13 miliwn at y gwaith, ynghyd â  £136 miliwn o gefnogaeth oddi wrth UK Export  Finance (UKEF), asiantaeth gredyd Llywodraeth y DU. 

Mae cefnogaeth UKEF yn seiliedig ar amod y bydd Shotton Mill yn allforio 10% o'i drosiant o fewn 5 mlynedd. Mae disgwyl i hyn hefyd leihau dibyniaeth y D.U ar fewnforio papur.

'Cynaliadwy'

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:"Mae gan Lannau Dyfrdwy hanes hir a balch fel un o brif ardaloedd diwydiannol Cymru a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan y ddwy lywodraeth yn sicrhau swyddi ac yn helpu i ddod â dyfodol llewyrchus i'r ardal."

Dywedodd Hamdullah Eren, uwch-aelod o fwrdd grŵp Eren Holding: “Byddwn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn ein ffatri newydd ym Melin Shotton, i’w gwneud y safle cynhyrchu papur mwya blaengar yn Ewrop. 

"Bydd y ffatri, a fydd wedi’i hadeiladu’n unswydd at y pwrpas, yn cynnig atebion cynhyrchu soffistigedig a chynaliadwy, a hynny ymhell i’r 21ain ganrif.

"Dyma brosiect cyflaf mawr cyntaf Eren Holdings y tu allan i  Türkiye ac rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi dewis Glannau Dyfrdwy fel lleoliad perffaith i wireddu’n huchelgais i dyfu."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.