Cymraes yn cystadlu yn The Great British Bake Off am y tro cyntaf ers pum mlynedd
Fe fydd Cymraes yn cystadlu yng nghyfres The Great British Bake Off heno, a hynny am y tro cyntaf ers pum mlynedd.
Mae Georgie Grasso, 34, o Gaerfyrddin ac yn gweithio fel nyrs pediatrig.
Mae ganddi wreiddiau Eidalaidd hefyd, ac mae eu ryseitiau wedi eu hysbrydoli o'i hamser yn coginio gyda'i Nonna Rosa.
Wrth gyhoeddi ei bod yn cystadlu, dywedodd Georgie: "Mae'r Cymry yn ôl.
"Pwy fyddai wedi meddwl y byddwn i'n cystadlu yn y Great British Bake Off. Dwi'n teimlo mor ffodus i fod yn rhan o'r teulu yma. Dwi wedi cyfarfod y bobl mwyaf anhygoel ac wedi creu ffrindiau am byth!"
Bydd Georgie, sy'n fam i dri o blant, yn un o 12 pobydd amatur a fydd yn ymddangos yn y gystadleuaeth deledu eleni.
Dywedodd fod ganddi Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd a bod hynny yn effeithio ar ei phobi.
“Pan alla i ganolbwyntio ar bobi, rydw i'n gallu ei wneud hyd eithaf fy ngallu mewn cyfnod byr o amser," meddai.
"Ochr arall hynny ydi fy mod i'n rhuthro a gwneud camgymeriadau."
Bydd y gyfres, sy'n cael ei chyflwyno gan Alison Hammond a Noel Fielding, yn dychwelyd i'r sgrîn nos Fawrth.
Fe fydd cystadleuwyr yn gobeithio creu argraff ar y beirniaid, y Fonesig Prue Leith a Paul Hollywood mewn cyfres o heriau pobi.