‘Popeth yn ei le’ i roi cynnig i mewn i achub tafarn hanesyddol y Ring yn Llanfrothen
Mae “popeth yn ei le” i roi cynnig i mewn i achub tafarn hanesyddol ‘y Ring’ yn Llanfrothen yn ôl ymgyrchwyr.
Gobaith yr ymgyrchwyr o'r gymuned leol yw prynu les Y Brondanw Arms, sy’n cael ei hadnabod fel y Ring, er mwyn rhedeg y dafarn fel menter gymunedol.
Dywedodd un o’r ymgyrchwyr Dafydd Emlyn wrth Newyddion S4C eu bod nhw wedi sicrhau y "pris gofyn a mwy" gan unigolion.
Roedd hynny’n cynnwys cytundebau benthyg ffurfiol o rhwng £500 a £25,000 gan unigolion, meddai.
Roedden nhw i fod i gwrdd â’r asiant ddydd Llun ond oherwydd teiar fflat ar ei gar roedd y cyfarfod wedi ei symud i ddydd Mercher, dywedodd.
“Rydyn ni wedi cyrraedd y targed o ran ffurflenni addewid - rydyn ni ychydig dros y targed a dweud y gwir,” meddai.
“Fe fydd yna gyfarfod o’r pwyllgor nos yfory i drafod y camau nesaf.”
Menter gymunedol
O ran unrhyw beth arall oedd ei angen ar yr ymgyrch dywedodd Dafydd Emlyn y byddai "help cyfreithiol" o gymorth iddyn nhw.
Dywedodd fod gan yr ymgyrch dudalen JustGiving oedd wedi codi £800 ac roedden nhw’n trafod a fyddai yn bosib defnyddio'r arian hwnnw tuag at gostau cyfreithiol.
Bragdy Robinsons sy’n berchen ar les y Ring ar hyn o bryd, ac roedd yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts wedi cysylltu â nhw er mwyn pwysleisio bod yr ymgyrch o ddifrif, meddai Dafydd Emlyn.
Mae'r dafarn yn rhan o Ystâd Brondanw, a gafodd ei sefydlu gan bensaer pentref Eidalaidd Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis.
Fe gafodd Menter Y Ring ei hysbrydoli i achub y dafarn yn dilyn sawl ymgyrch llwyddiannus gan gymunedau eraill i droi eu tafarndai yn fentrau cymunedol.
Mae’r rheini’n cynnwys Tafarn Y Plu yn Llanystumdwy, a Thafarn y Fic yn Llithfaen.
Llun gan Menter y Ring.