Newyddion S4C

Yr heddlu'n ‘parhau i chwilio’ am fachgen 17 oed aeth i mewn i'r Fenai

23/09/2024
Hofrennydd ar lannau'r Fenai

Mae’r heddlu wedi dweud ddydd Llun eu bod nhw’n “parhau i chwilio” am fachgen 17 oed aeth i mewn i Afon Menai ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n “tristau” na wnaethon nhw lwyddo i ddod o hyd i’r dyn ifanc er iddyn nhw gynnal archwiliadau “eang” dros y penwythnos.

Roedd y bachgen yn gwisgo par o jîns a hwdi piws pan gafodd ei weld ddiwethaf medd y llu:

“Bydd dronau arbenigol yn parhau i chwilio trwy gydol yr wythnos, gyda chefnogaeth swyddogion chwilio arbenigol ac asiantaethau eraill pan fydd y llanw a’r tywydd yn caniatáu.".

Dywedodd y Prif Arolygydd Stephen Pawson bod eu “meddyliau’n parhau gyda theulu’r bachgen ar yr amser hynod anodd hwn”.

“Mae ein swyddogion yn parhau i roi cymorth iddynt ac yn eu diweddaru’n rheolaidd ar ein hymchwiliad,” meddai.

“Rydym yn diolch i’r gymuned am eu cefnogaeth ac yn parhau i annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i ni ar unwaith os ydyn nhw’n gweld unrhyw beth perthnasol."

Ychwanegodd: “Rwy’n deall bod aelodau’r gymuned yn awyddus i gynorthwyo gyda’r chwiliadau. 

“Byddwn yn annog gwirfoddolwyr i ystyried yn ofalus beryglon yr arfordir ac amodau tywydd cyfnewidiol wrth gynnal chwiliadau i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei niweidio.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda’r heddlu gan ddyfynnu cyfeirnod 48138.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.