Newyddion S4C

Criw benywaidd o Fad Achub Biwmares yn rhwyfo mewn ras ar afon Tafwys

Bad Achub Biwmares - Ras Rhwyfo

Roedd criw benywaidd o fad achub RNLI Biwmares ymhlith miloedd o rwyfwyr wnaeth gymryd rhan yn un o rasys rhwyfo mwyaf y wlad ddydd Sadwrn.

Yn rhwyfo cwch Celtaidd hir, fe wnaeth y criw, sy'n galw eu hunain yn 'Girls in the Boat', rwyfo 21.6 o filltiroedd ar hyd afon Tafwys yn y Great River Race.

Nod y criw oedd codi arian ar gyfer yr orsaf ym Miwmares er mwyn nodi 200 mlwyddiant Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).

Cyn y digwyddiad, roedd y criw wedi gosod targed o £7,325, sydd yn cynrychioli 10 ceiniog am bob diwrnod o’r ddwy ganrif mae'r elusen wedi bod yn achub bywydau.

Roedd criw Biwmares yn cael eu cefnogi gan yr actores Joanna Scanlan, wrth i’w chwaer-yng-nghyfraith, Stevie Scanlan, gymryd rhan.

Dywedodd Stevie, aelod o griw RNLI Biwmares: “Fel aelod benywaidd gwirfoddol balch o orsaf Biwmares, dw i’n falch iawn ein bod yn dod at ein gilydd fel un criw ac yn mynd lawr i Lundain i gynrychioli Ynys Môn a’r RNLI.

“Mae’n anodd dychmygu beth allai fod yn well na chymryd rhan yn un o'r rasys afon fwyaf, er mwyn nodi carreg filltir 200 mlynedd o achub bywydau ar y môr."

Roedd rhai o'r criw yn newydd i'r gamp. Ymhlith y criw cyfan roedd: Gwen Beeken, Pippa Thomas, Cindy Styles, Stevie Scanlan, Giovanna Culeddu, Cheryl Owen, Eleanor Butler, Clare Tewson a Mandi Shipton.

Roedd 2,5000 o rwyfwyr mewn 300 o gychod yn cymryd rhan yn y ras, gan rwyfo o Millwall yn ne ddwyrain y ddinas i Richmond yn y de orllewin, gyda sawl un o'r timau mewn gwisg ffansi.

Prif lun: PA/RNLI

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.