Newyddion S4C

'Perygl i’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol waethygu’ yn dilyn ymosodiad gan Israel yn Libanus

Beirut

Mae’r Cenhedloedd Unedig (UN) wedi rhybuddio y gallai’r cynnydd diweddar mewn ymosodiadau rhwng Israel a Hezbollah "waethygu’r sefyllfa" ar draws y Dwyrain Canol.

Cafodd un o arweinwyr milwrol Hezbollah, Ibrahim Aqil, ei ladd yn Beirut, prifddinas Libanus ddydd Gwener, mewn ymosodiad o’r awyr gan luoedd Israel.

Mae Gweinidog Iechyd Libanus wedi adrodd fod 37 o bobl, gan gynnwys tri o blant, wedi eu lladd yn yr ymosodiad. Cafodd 68 o bobl eu hanafu.

Dyma’r trydydd ymgyrch i Israel ei chynnal yn Beirut eleni, wrth i Hezbollah saethu rocedi dros y ffin i ogledd Israel bron yn ddyddiol dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Mae 10 o Israeliaid a dau o filwyr Lluoedd Amddiffyn Israel wedi marw yn yr ymosodiadau, tra bod tua 60,000 o bobl yng ngogledd Israel wedi gorfod gadael eu tai.

Wrth annerch Cyngor Diogelwch yr UN ddydd Gwener, dywedodd y pennaeth materion gwleidyddol, Rosemary DiCarlo: “Wrth i ni agosáu at flwyddyn o ryfela rhwng Israel a Libanus a’r dioddefaint yn Gaza, mae gormod o fywydau wedi eu colli, gormod o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi a gormod o fywoliaethau wedi eu dinistrio.

Image
pennaeth materion gwleidyddol, Rosemary DiCarlo
Pennaeth Materion Gwleidyddol y Cenhedloedd Unedig, Rosemary DiCarlo

“Rydyn ni mewn perygl o weld y sefyllfa yn gwaethygu a thyfu yn fwy na’r dioddefaint a’r dinistr yr ydym eisoes wedi ei weld.

“Rwyf yn annog yn gryf aelodau sydd â dylanwad dros y gwledydd sydd ynghlwm i drafod gyda nhw.”

Bu farw o leiaf 32 o bobl mewn ymosodiadau ar declynnau cysylltu aelodau Hezbollah dydd Mawrth a Mercher, wrth i ddyfeisiau pagers a walkie talkie ffrwydro. Cafodd dros 450 eu hanafu yn yr ymosodiadau.

Dywedodd Hezbollah bod Israel yn gyfrifol am yr ymosodiad. Dyw Israel heb wneud sylw.

Mae Hezbollah yn dweud eu bod yn dangos eu cefnogaeth i Hamas, sydd mewn rhyfel â Lluoedd Israel yn Gaza.

Ddydd Mercher, dywedodd Gweinidog Diogelwch Israel, Yoav Gallant, bod y “rhyfel wedi cyrraedd cymal newydd”, wrth i filwyr gael eu symud i ogledd y wlad.

Mae Israel hefyd wedi datgan eu bod yn bwriadu sicrhau bod trigolion yng ngogledd y wlad yn gallu dychwelyd i'w tai "yn ddiogel".

Mudiadau terfysgol yw Hezbollah ac Hamas yn ôl Israel, Prydain a rhai gwledydd eraill.

Prif lun: Y dinistr yn Beirut (AFP/Wochit)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.