Newyddion S4C

Keir Starmer i beidio derbyn rhoddion i dalu am ei ddillad yn y dyfodol

21/09/2024
Rayner, Starmer, Reeves

Ni fydd Syr Keir Starmer yn derbyn rhoddion yn y dyfodol i dalu am ei ddillad.

Fe gyhoeddodd Angela Rayner a Rachel Reeves hefyd y bydden nhw'n gwneud yr un fath wrth symud ymlaen.

Daw penderfyniad y Prif Weinidog, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Canghellor yn dilyn beirniadaeth bod gwraig Syr Keir, Victoria Starmer wedi derbyn rhoddion.

Roedd y rhoddion yn cynnwys dillad gan y rhoddwr Llafur blaenllaw, yr Arglwydd Alli. 

Mae Mr Starmer wedi derbyn tua £39,000 gan yr Arglwydd Alli ers mis Rhagfyr 2019.

Mae papur newydd y Financial Times wedi adrodd bod Ms Rayner a Ms Reeves hefyd wedi derbyn rhoddion ar gyfer dillad.

Yn ôl cofrestr buddiannau'r ASau, fe dderbyniodd Ms Rayner arian tuag at ddillad gan yr Arglwydd Alli, tra bod rhoddwr o’r enw Juliet Rosenfeld wedi darparu cyllid ar gyfer dillad Ms Reeves mewn pedwar rhandaliad, meddai’r Financial Times.

Mae Llafur yn ceisio symud ymlaen o'r ddadl wrth i’r blaid fynd i Lerpwl ar gyfer ei chynhadledd flynyddol gyntaf ers ennill yr Etholiad Cyffredinol fis Gorffennaf.

Mae Syr Keir yn parhau i ddweud ei fod wedi dilyn yr holl reolau ar dderbyn rhoddion.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.