Newyddion S4C

Honiad mai Israel sy’n gyfrifol am osod dyfeisiadau ffrwydrol yn nwylo Hezbollah

18/09/2024
Ymosodiad ar Hezbollah yn Libanus

Gwasanaethau cudd Israel wnaeth osod ychydig o ddeunydd ffrwydrol mewn teclynnau cysylltu laddodd o leiaf naw o bobl ac anfu miloedd yn Libanus. 

Dyna mae'r New York Times a Reuters yn dweud. 

Maen nhw'n honni bod gwasanaeth cudd Mossad wedi gwneud hyn yn ystod y broses o'u cynhyrchu. 

Mae'r datblygiadau diweddaraf yn Libanus yn fater "pryderus iawn" meddai llefarydd ar gyfer y Cenhedloedd Unedig.

Fe wnaeth y teclynnau ffrwydro tua 15:30 brynhawn dydd Mawrth yn y brifddinas, Beirut a nifer o ardaloedd eraill. Mae Hezbollah yn ddibynnol ar y teclynnau i gyfathrebu gyda'i gilydd am fod yna beryg y gallai eu ffonau symudol gael eu hacio. 

Mae'r ysbytai yn y wlad wedi bod yn orlawn ac mae gweinidog iechyd y wlad yn dweud bod 200 o bobl mewn cyflwr difrifol.

Ers dechrau'r rhyfel rhwng Hamas ac Israel mae rocedi wedi bod yn cael eu tanio yn ddyddiol ar draws ffin Israel a Libanus.

Mae Hezbollah yn dweud eu bod yn dangos eu cefnogaeth i Hamas.

Mudiadau terfysgol yw Hezbollah ac Hamas yn ôl Israel, Prydain a rhai gwledydd eraill. 

 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.