Newyddion S4C

‘Nid eich ficer arferol’: Cyn berchennog siop datŵs yn offeiriad ym Môn

Parchedig Bearwood

O gynhyrchu cerddoriaeth i Ant and Dec i fod yn berchennog ar siop datŵs, mae offeiriaid newydd yng Nghaergybi yn dweud ei fod wedi dilyn “llwybr anarferol” ar ei daith ffydd.

Wedi iddo deithio ar draws y byd yn ystod ei yrfa liwgar, mae’r Parchedig George Bearwood bellach wedi ymgartrefu ar Ynys Cybi ar ôl cael ei benodi’n Offeiriad Arloesi yn Ardal Weinidogaeth Caergybi.

"Mae fy nghefndir a fy nhaith ffydd yn eithaf anarferol,” meddai’r Parchedig Bearwood.

“Rwy’n clywed yn aml nad eich ficer arferol ydw i. Mae dod â phobl eraill i wybod sut y gall Duw newid eu bywydau yn fy ngalluogi i gwrdd â nhw lle y maen nhw, ar ba bynnag gam yn eu taith ffydd y gallai hynny fod.”

Wedi gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant cerddoriaeth, fe wnaeth y Parchedig ymddeol yn 40 oed.

Chwaraeodd mewn sawl band roc yn y 1970au, cyn gweithio fel cynhyrchydd cerddoriaeth i grwpiau fel Big Fun ac Ant and Dec, y gantores Almaeneg Nina Hagen, a’r grŵp tecno-pync, Bent USA.

Fe wnaeth hefyd gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y Discovery Channel, wrth iddo symud i fyw i Lundain, Berlin, Osaka, a Los Angeles yn ystod ei yrfa.

Image
Cafodd y Parchedig George Bearwood ei ordeinio yn 2020
Fe gafodd y Parchedig George Bearwood ei ordeinio yn 2020

Wedi ei ymddeoliad, fe benderfynodd agor siop datŵs yn Llundain, cyn dod yn berchennog ar dŷ arwerthu yn Rhosan-ar-Wy.

Ond yn 2020, fe gafodd ei ordeinio ac mae’n dweud ei fod yn ceisio “defnyddio ei brofiadau bywyd” i bontio’r bwlch rhwng diwylliant cyfoes a ffydd Gristnogol.

Ychwanegodd: "Rwy’n credu ei bod hi’n anodd iawn nodi’r hyn sy’n ysbrydoli unrhyw un i fynd ar drywydd galwad i’r weinidogaeth.

“Ond i fi, mae’n debyg, er gwaethaf fy llwyddiannau yn fy ngyrfa flaenorol, roeddwn i bob amser yn teimlo bod rhywbeth ar goll, potensial nad oeddwn i’n ei gyflawni. Ac fe wnaeth hynny fy nenu i i’r eglwys i gychwyn, a wnaeth fy arwain i le’r ydw i nawr.”

'Teimlo'n ffodus'

Mae gwraig y Parchedig Bearwood, y Canon Alex Mayes, hefyd yn gwasanaethu fel offeiriad ac yn ddiweddar, cafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Gweinidogaeth Esgobaeth Bangor.  

Gydag angerdd am ffilmiau arswyd a diwinyddiaeth, mae’r offeiriaid newydd wedi denu pobl i fynychu’r eglwys ar ddydd Sul drwy ddechrau grŵp ffilmiau arswyd o’r enw Spooky HaT.

Ychwanegodd: "Efallai bod gan lawer o bobl yn nhrefi a phentrefi Ardal Weinidogaeth Bro Cybi ffydd gref, rhywfaint o ffydd neu ddim ffydd ac rwy’n credu bod ymgysylltu â’r bobl hynny i rannu ein ffydd yn bwysig, ac rydyn ni’n gwneud hynny orau pan fyddwn ni’n caniatáu i Dduw ddefnyddio ein profiadau bywyd. 

"Mae yna bobl heddiw sy’n gwybod fawr ddim am y ffydd Gristnogol. Nid yw rhai erioed wedi mynd i mewn i eglwys ond rwy’n gwybod bod pobl yn aml yn meddwl am ffydd p’un ai ydyn nhw’n gwybod hynny ai peidio; trwy ffilmiau, llenyddiaeth a cherddoriaeth. 

"Maen nhw eisoes yn cysylltu â Duw, ond dydyn nhw ddim yn gwybod hynny eto.

"Gobeithio bod fy rôl yn golygu mai fi all fod y cysylltiad hwnnw rhwng bywyd cyfoes a ffydd fyw ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn o allu gwneud hynny."

Prif lun: Facebook/Yr Eglwys Yng Nghymru ar Ynys Cybi

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.