Coelcerthi'n cael eu tanio yng Ngogledd Iwerddon nos Sul

Coelcerth yng Ngogledd Iwerddon
Fe fydd coelcerthi’n cael eu tanio ledled Gogledd Iwerddon nos Sul, er mwyn nodi cychwyn dathliadau traddodiadol yr ‘Unfed Noson ar Ddeg’.
Caiff coelcerthi anferth eu llosgi ar noson 11 Gorffennaf bob blwyddyn ymysg cymunedau Unoliaethol yn y dalaith, er mwyn nodi buddugoliaeth y Brenin William ym Mrwydr y Boyne yn 1690.
Er bod mwyafrif o danau'n digwydd heb helyntion, ar adegau mae awdurdodau wedi gorfod ymyrryd a dymchwel deunydd coelcerth anferth am resymau iechyd a diogelwch ac mae rhai yn dal i achosi tensiwn mewn cymunedau, yn ôl The Irish Times.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Alan in Belfast