Dim addewid newydd ar daflegrau Wcráin ar ôl trafodaethau rhwng Starmer a Biden
Nid yw Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, wedi cyhoeddi unrhyw benderfyniad ar ganiatáu i Wcráin i ddefnyddio arfau i gyrraedd targedau y tu mewn i Rwsia ar ôl trafodaethau gyda Arlywydd America, Joe Biden yn Washington.
Dywedodd Syr Keir eu bod nhw wedi cael “trafodaeth hir a chynhyrchiol ar nifer o feysydd, gan gynnwys Wcráin, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, y Dwyrain Canol a'r Indo-Môr Tawel".
Dywedodd y Tŷ Gwyn eu bod hefyd wedi mynegi “pryder mawr am ddarpariaeth arfau angheuol Iran a Gogledd Korea i Rwsia”.
Yn gynharach fe rybuddiodd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wledydd y gorllewin i beidio â gadael i Wcráin danio taflegrau pellgyrhaeddol yn Rwsia.
Dywedodd Mr Putin y byddai cam o’r fath yn cynrychioli “cyfranogiad uniongyrchol” NATO yn rhyfel Wcráin.
Wrth annerch gohebwyr cyn ei gyfarfod â Syr Keir yn y Tŷ Gwyn, dywedodd Mr Biden: “Nid wyf yn meddwl llawer am Vladimir Putin”.
Hyd yn hyn, nid yw'r Unol Daleithiau na'r DU wedi rhoi caniatâd i Wcráin ddefnyddio arfau yn erbyn targedau y tu mewn i Rwsia, rhag ofn i’r sefyllfa waethygu.
Mae Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky wedi galw dro ar ôl tro ar gynghreiriaid gwledydd y gorllewinol i awdurdodi defnydd o’r fath, gan ddweud mai dyma’r unig ffordd i ddod â’r rhyfel i ben.
Llun: Wochit