Newyddion S4C

Arestio saith ar ôl i blentyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad

13/09/2024
Shotton

Mae saith o bobl wedi cael eu harestio ar ôl i blentyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y plentyn wedi ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Alder Hey, Lerpwl gydag anafiadau “a fydd yn newid ei fywyd”.

Digwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 17.30 ar ffordd Central Drive, Shotton brynhawn dydd Mercher.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi arestio dyn 14 oed, dyn 17 oed, dyn 38 oed, dynes 41 oed a dynes 18 oed ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafodd dynes 24 oed hefyd ei harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr. 

Maen nhw i gyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau.

Mae dyn 16 oed, nad oes modd ei enwi am resymau cyfreithiol, wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, methu â stopio yn lleoliad gwrthdrawiad ffordd, a methu â rhoi gwybod am wrthdrawiad ffordd.

Mae hefyd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.

'Casglu tystiolaeth'

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jon Bowcott: "Hoffwn roi sicrwydd i’r gymuned leol bod ein hymchwiliad yn mynd rhagddo, ac rydym yn parhau i gasglu tystiolaeth i sicrhau y gallwn sefydlu amgylchiadau llawn y digwyddiad hwn.

"Mae ein meddyliau gyda’r plentyn a’i deulu ar yr adeg bryderus hon."

Ychwanegodd: “Fel yr ydym wedi dweud yn flaenorol, gan fod arestiadau wedi’u gwneud a bod yr achos yn dal yn weithredol, byddwn yn annog y cyhoedd i beidio â dyfalu na gwneud unrhyw sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol a allai niweidio unrhyw achos cyfreithiol posibl yn y dyfodol."

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu, gan ddyfynnu'r cyfeirnod Q137770.

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.